Roedd siom i’r ddau athletwr o Gymru oedd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yn Abertawe y bore ma.

Collodd Nathan Stephens allan ar fedal yng nghystadleuaeth taflu’r ddisgen yn nosbarth F57, tra bod Beverley Jones hefyd wedi gorffen y tu allan i’r tri uchaf yng nghystadleuaeth taflu’r ddisgen F38.

Nathan Stephens

Gorffennodd Nathan Stephens yn bedwerydd y bore ma yn y ddisgen, ei ail hoff gamp, a’i dafliad pellaf yn 32.26 metr.

Alexey Ashapatov o Rwsia gipiodd y fedal aur gyda thafliad hiraf o 42.11 metr.

Janusz Rokicki o Wlad Pŵyl enillodd y fedal arian (41.11m) a Jaroslav Petrous o Weriniaeth Tsiec enillodd y fedal efydd (34.72).

Daw’r siom diweddaraf wedi iddo golli apêl yn erbyn tafliad annilys yn y taflu gwaywffon ddechrau’r wythnos, pan gollodd allan ar fedal bryd hynny hefyd.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth y bore ma, dywedodd Nathan Stephens wrth golwg360: “Ro’n i’n pwyso a mesur a fyddwn i’n dod i gystadlu yma heddiw ond fe ddes i, fe daflais i o dan anfantais anferth.

“Dw i ddim yn mynd i gael fy siomi gan yr IPC. Mae angen iddyn nhw rhoi rheolau yn eu lle ond dw i’n methu cystadlu fel mae pethau ar hyn o bryd.

“Dw i am drefnu cyfarfod gyda’r IPC i weld a allan nhw fy nghynghori i wneud y peth iawn.

“Mae angen gwneud hynny, nid yn unig i fi, ond dw i’n hyfforddi athletwyr ifainc hefyd ac maen nhw’n fy ngweld i’n cael siom ac mae hynny’n eu troi nhw i ffwrdd.

“Mae angen sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gallu cystadlu mewn ffordd gyfartal.”

Mae sylw Stephens nawr yn troi at baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Rio ymhen dwy flynedd, lle mae’n dweud fod “angen cael y blaenoriaethau’n gywir”.

Beverley Jones

Pedwerydd yn unig oedd Beverley Jones o Sir y Fflint wrth daflu’r ddisgen yn nosbarth F38 y bore ma.

Doedd ei thafliad gorau o 26.84 metr ddim yn ddigon i’w chodi i safleoedd y medal, wrth i Ingrida Priede o’r Swistir daflu pellter o 27.63 – ei pherfformiad gorau’r tymor hwn – i gipio’r fedal efydd.

Irina Vertinskaya o Rwsia enillodd y fedal arian am dafliad gorau o 28.35 metr – ei thafliad personol gorau – tra bod Viktorya Yasevych o’r Iwcrain wedi ennill y fedal aur gyda thafliad o 28.69 metr.

Doedd ei pherfformiad yn Abertawe’r wythnos hon ddim yn adlewyrchiad o’r hyn y mae wedi’i gyflawni ar hyd y blynyddoedd, wedi iddo golli allan ar fedal yn y siot ddechrau’r wythnos gyda thafliad o 9.01 metr.

Mae’r Gymraes yn brofiadol yn y maes, wedi iddi gystadlu yn y Gemau Paralympaidd bedair gwaith, gan ennill medal efydd yn Llundain yn 2012 gyda’i thafliad gorau’r tymor hwnnw o 30.99 metr.

Enillodd hi fedal arian ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Seland Newydd yn 2011 gyda thafliad o 30.62 metr, a medal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Lyon yn 2013 gyda thafliad o 28.54 metr.

Cyn iddi droi at y maes ar gyfer Gemau Paralympaidd Beijing yn 2008, roedd hi’n arfer cystadlu ar y trac, gan gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad lle enillodd hi fedal efydd yn y 100 metr ym Melbourne yn 2006.

I ffwrdd o’r byd athletau, mae hi wedi cynrychioli tîm criced merched Cymru, a chael y cyfle i guro Lloegr yn Lord’s yn 1996.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth y bore ma, dywedodd Beverley Jones wrth golwg360: “Wnaeth e ddim mynd cweit yn iawn i fi bore ma. Wnes i ddim cael medal fel ro’n i’n gobeithio’i chael. Ry’ch chi’n cael diwrnodau da a drwg. Roedd hi’n braf cael bod o flaen torf o Gymry – allai hynny ddim bod wedi bod yn well.”