Federico Macheda
Fe fydd Caerdydd yn teithio i Wolves heddiw gan obeithio parhau â’u dechrau da i’w tymor yn y Bencampwriaeth.

Ers y gêm agoriadol pan gawson nhw gêm gyfartal yn erbyn Blackburn, mae Caerdydd wedi trechu Wigan a Huddersfield ac felly â saith pwynt o’u tair gêm agoriadol.

Ond nid yw pethau wedi bod yn fêl i gyd i Gaerdydd yr wythnos hon, yn dilyn adroddiadau fod eu cyn-reolwr Malky Mackay wedi gwneud sylwadau hiliol, homoffobaidd a rhai oedd yn dilorni merched tra’i fod yn y swydd.

Ar gael

Mae disgwyl i’r ymosodwr Federico Macheda a’r chwaraewr canol cae Kagisho Dikgacoi fod ar gael i Gaerdydd ar gyfer y gêm ar ôl iddyn nhw wella o anaf.

Fe allai Anthony Pilkington hefyd ddechrau ei gêm gyntaf i’r Adar Gleision ar ôl symud o Norwich yr wythnos diwethaf.

Caerdydd oedd enillwyr y gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm pan drechon nhw Wolves 2-1 ym Molineux ym mis Chwefror 2013.

Fe allai Caerdydd hefyd ddod wyneb yn wyneb â rhai o’r Cymry yn nhîm Wolves, gan gynnwys Dave Edwards, Lee Evans a Sam Ricketts.