Gylfi Sigurdsson
Fe fydd Abertawe’n croesawu Burnley i Stadiwm Liberty heddiw ar gyfer eu gêm gartref gynta’ y tymor hwn yn yr Uwch Gynghrair.
Fe ddechreuodd tymor yr Elyrch yn wych yr wythnos diwethaf gyda buddugoliaeth annisgwyl o 2-1 i ffwrdd o gartref ym Man United, gyda Ki Sung-Yeung a Gylfi Sigurdsson yn rhwydo.
Ni ddechreuodd tymor Burnley cystal wrth iddyn nhw golli 3-1 i Chelsea, a hynny er iddyn nhw fynd ar y blaen.
Cryfhau gartre’
Mae amddiffynnwr Abertawe Neil Taylor nawr yn gobeithio y gall yr Elyrch fod yr un mor gryf pan maen nhw’n chwarae o flaen eu torf gartref am y tro cyntaf y tymor hwn.
“Allwn ni ddim bod wedi gofyn am well canlyniad na pherfformiad yr wythnos diwethaf,” meddai cefnwr Cymru.
“Ond fe fydd dydd Sadwrn yn her wahanol – ni yw’r ffefrynnau nawr ar ôl i neb ddisgwyl i ni ennill yn erbyn Manchester United.
“Doedden ni ddim digon da’n chwarae gartref y tymor diwethaf. Rydym ni wedi siarad fel tîm am wneud yn well o flaen ein cefnogwyr ein hunain, oherwydd chawson nhw ddim digon gennym ni i ddathlu yn y Liberty y tymor diwethaf.”
Gweld enwau newydd?
Fe allai dau o chwaraewyr newydd Abertawe, yr amddiffynnwr Federico Fernandez a’r chwaraewr canol cae Tom Carroll, fod yn y garfan am y tro cyntaf heddiw.
Fe ymunodd Fernandez yr wythnos hon o Napoli am ffi o tua £7m, tra bod Carroll ar fenthyg o Spurs am y tymor.
Mae disgwyl i reolwr Abertawe Garry Monk allu dewis o garfan lawn ar gyfer y gêm, heblaw am Leon Britton a Marvin Emnes sydd yn absennol oherwydd anafiadau.
Yr unig chwaraewr ar restr anafiadau Burnley yw ymosodwr Cymru Sam Vokes, fydd allan am rai misoedd eto gydag anaf i’w ben-glin.