Fe ddechreuodd Aberystwyth dymor newydd Uwch Gynghrair Cymru mewn steil wrth drechu Derwyddon Cefn yn gyfforddus o 5-0.

Chris Venables oedd seren y gêm i’r ymwelwyr gan sgorio pedair gôl wrth i Aber droi gêm gyntaf y Derwyddon nôl yn y gynghrair yn hunllef.

Fe rwydodd ei gyntaf gyda pheniad ar ôl wyth munud, cyn dyblu’r fantais o’r smotyn ar ôl hanner awr wrth i amddiffynwr y Derwyddon Adam Hesp weld cerdyn coch.

Ychwanegodd Venables ddwy arall i’w gyfanswm yn yr ail hanner, gyda Luke Sherbon hefyd yn rhwydo gôl wych rhwng y ddau honno, ac anfon Aberystwyth adref yn hapus ar ddechrau’r tymor newydd.

Y Seintiau’n trechu Bangor

Ar ddechrau tymor newydd mae’r Seintiau Newydd yn ffefrynnau i ennill y gynghrair unwaith eto, ac ni gymerodd hi lawer o amser i ddangos pam yn erbyn Bangor.

Yr ymosodwr o Seland Newydd Greg Draper oedd yno i sgorio’r gôl agoriadol ar ôl 27 munud i roi’r Seintiau ar y blaen.

Fe barhaodd y patrwm o amddiffynwyr yn gweld cerdyn coch yn y gêm hon hefyd, gyda Sam Hart o Fangor yn cael ei hel o’r maes am wthio llumanwr.

Hanner ffordd drwy’r ail hanner fe ddyblodd Sam Finley fantais y tîm cartref, ac felly’r arhosodd hi – 2-0 i’r Seintiau.

Prestatyn yn ei chipio hi’n hwyr

Prestatyn aeth a hi yn yr ornest rhwng y ddau dîm o arfordir gogledd Cymru, gyda buddugoliaeth o 3-2 gartref dros Gap Cei Cona.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i Gary O’Toole, cyn i Jack Lewis unioni’r sgôr cyn yr egwyl.

Fe aeth Gap Cei Cona ar y blaen unwaith eto yn yr ail hanner gyda gôl i Luke Holden, cyn i Michael Parker ddod a Prestatyn yn gyfartal unwaith eto.

Ac yn y munud olaf Andy Parkinson oedd yr arwr i Brestatyn, gan rwydo’r gôl fuddugol ac anfon yr ymwelwyr adref i Gei Cona yn waglaw.

Gemau yfory

Airbus v Port Talbot

Caerfyrddin v Rhyl

Y Drenewydd v Bala