Laura Sugar ar y trac
Mae Laura Sugar wedi dweud ei bod hi’n fodlon ar ei pherfformiad yn y naid hir ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yn Abertawe y prynhawn ma.

Gorffennodd y Gymraes yn bedwerydd yn y gystadleuaeth sy’n gymharol newydd iddi, ac mi ddywedodd wrth golwg360 y bore ma ei bod hi’n benderfynol o fynd allan i’r maes a chael tipyn o hwyl.

Yn wên o glust i glust ar ddiwedd y gystadleuaeth, cadarnhaodd ei bod hi wedi cael hwyl wrth orffen gyda naid hiraf o 4.27 metr.

Dywedodd: “Fe ges i lot o hwyl. Dyw’r naid hir ddim wir yn un o ‘nghryfderau i fel mae’r gwibio.

“Fe wnes i fwynhau, a mynd allan yno a gorffen yn bedwerydd.

“Fe wnes i jobyn eitha da yn y gwynt. Mae ‘nghoesau i ychydig yn flinedig ar ôl y dyddiau diwethaf ond fe wnes i wir fwynhau.”

Ni fydd llawer o seibiant iddi ar ddiwedd y gystadleuaeth hon, wrth iddi baratoi i gystadlu ar y trac yng nghystadleuaeth y Grand Prix yn Birmingham ddydd Sul.

Ychwanegodd: “Bydd fy nghoesau’n flinedig, a dim ond diwrnod sydd gyda fi i ddod dros hyn.

“Yn ffeinals y Grand Prix, mae tipyn o bobol yn dod i gefnogi ac fe af fi allan a mwynhau.

“Beth bynnag fydd ar ôl yn fy nghoesau, fe af fi mor gyflym â phosib a rhoi popeth i mewn iddi.

“Dw i’n gobeithio am amodau da ac amserau da. Dw i’n mynd i ymlacio, cael bath mewn iâ a mynd amdani.”

Stef Reid yn gwireddu breuddwyd

Ddechrau’r wythnos, dywedodd Stef Reid mai’r naid hir oedd ei phrif ffocws yn ystod yr wythnos a’i bod hi’n anelu am fedal aur.

Mi wnaeth hi wireddu’r freuddwyd wrth gipio’r fedal gyda naid hiraf o 5.32 metr, wrth i Marie-Amelie Le Fur o Ffrainc gipio’r fedal arian gyda naid hiraf o 5.28, a Iris Pruysen o’r Iseldiroedd yn cipio’r fedal efydd am naid hiraf o 4.88 metr, ei naid orau y tymor hwn.

Ar ddiwedd y gystadleuaeth, dywedodd Stef Reid wrth golwg360 bod ennill y gystadlaeth yn “teimlo’n anhygoel”.

“Dyma fy nheitl cyntaf a dyma’r tro cyntaf mewn pencampwriaeth dw i wedi cael sefyll yng nghanol y podiwm.

“Dyw hi ddim yr un peth â thorri record y byd ac roedd pwysau wrth ddod i mewn iddi.

“Roedd hi’n bwysig iawn i fi gael dod i mewn a phrofi i fi fy hunan ‘mod i’n gallu perfformio a brwydro ac y galla i gyflawni rhywbeth pan fo angen.

“Bydda i’n hyderus iawn ar gefn hyn ac yn gryf o’r farn fod y gwaith dw i’n ei wneud yn arwain at y canlyniad cywir.

“Bydd hynny i’w weld ac mae’n gwneud i fi eisiau gweithio’n galetach fyth y flwyddyn nesaf.

“Dw i ddim wir yn gwybod beth i wneud gyda fi fy hunan nawr.

“I fi, roedd hon yn gystadleuaeth yn erbyn athletwyr o safon pencampwriaethau’r byd, er ‘mod i’n cystadlu yn Ewrop. Roedd hi’n braf cael dod yma a phrofi fy hunan.

“Dim ond hyn a hyn o gyfleoedd sydd i’w cael cyn [Gemau Paralympaidd] Rio a dw i am fod yn barod mewn pob ffordd bosib, yn gorfforol ac yn feddyliol, deall beth yw bod mewn pencampwriaeth a bod yn barod i berfformio mewn pencampwriaeth. Roedd hwn yn gam pwysig i fi.”