Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru wedi mynnu fod gan chwaraewyr ifanc Cymru gyfle i osod eu marc ar y llwyfan rhyngwladol pan fydd ymgyrch Ewro 2016 yn dechrau fis nesaf.

Ddydd Mercher fe fydd Chris Coleman yn enwi’i garfan ar gyfer y gêm ragbrofol gystadleuol gyntaf, pan fydd Cymru’n teithio i Andorra ar 9 Medi.

Roedd y rheolwr yn cymryd rhan mewn sgwrs fyw ar y we heddiw gyda rheolwyr rhyngwladol eraill gwledydd Prydain – Roy Hodgson o Loegr, Gordon Strachan o’r Alban a Michael O’Neill o Ogledd Iwerddon.

A phan ofynnwyd iddo gan gefnogwr Cymru faint o ran fyddai gan chwaraewyr ifanc fel George Williams a Tom Lawrence i chwarae, fe awgrymodd Coleman y gallwn nhw ddisgwyl bod o gwmpas y garfan.

“Does gennym ni ddim llwyth o chwaraewyr sy’n gallu dod i mewn a chystadlu yn y lefel rydym ni, felly dyw’r garfan ddim yn un fawr, dyw’r pŵl o chwaraewyr ddim yn fawr,” cyfaddefodd Coleman.

“Felly mae’n neis ac yn galonogol pan rydyn ni’n gweld chwaraewyr fel George Williams a Tom Lawrence yn cael blas ohoni.”

Cafodd y ddau chwaraewr eu cynnwys yng ngharfan lawn Cymru am y tro cyntaf pan chwaraeon nhw’r Iseldiroedd nôl ym mis Mehefin, ac mae Coleman yn eu gweld fel rhan o gnwd addawol newydd.

“Roedd gennym ni 12 chwaraewr ar goll o gêm yr Iseldiroedd … ond mae chwaraewyr ifanc fel Williams a Lawrence, Declan John yng Nghaerdydd hefyd, mae Jonny Williams wedi bod gyda ni ers 18 mis nawr, mae un neu ddau chwaraewr ifanc arall ac mae’n argoeli’n dda i’r dyfodol.”

Poeni am anafiadau

Fe fydd Cymru’n herio Andorra ym mis Medi cyn dwy gêm gartref ragbrofol yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Cyprus ym mis Hydref.

Fe fyddwn nhw hefyd yn herio Gwlad Belg ac Israel yn y grŵp rhagbrofol er mwyn ceisio cyrraedd Pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc yn 2016.

Ond mae Coleman yn mynnu nad yr un o’r timau hynny yw’r her fwyaf sydd yn ei wynebu – ond yn hytrach y rhestr anafiadau.

“Dwi’n poeni mwy amdanon ni na’r gwrthwynebwyr,” cyfaddefodd Coleman.

“Mae e amdanon ni gyda Chymru, mae gennym ni griw da o chwaraewyr ond allwn ni ddim eu cael nhw i gyd ar y cae gyda’i gilydd ar yr un pryd.

“Falle na wnaiff e fyth ddigwydd, dwi ddim yn gwybod, falle mai jyst gobeithio ydw i pan mae’n dod i hynny.

“Ond mae e amdanon ni. Mae gennym ni rai chwaraewyr da, rhai chwaraewyr da iawn – ac un chwaraewr gwych.”

Gallwch wylio’r sgwrs fideo ‘hangout’ Google+ a drefnwyd gan noddwyr y pedwar tîm cenedlaethol, Vauxhall, isod: