Laura Sugar yn rhedeg ar y trac
Er iddi ennill medalau efydd wrth redeg yr wythnos hon, mae Laura Sugar yn cyfaddef nad yw’r naid hir yn un o’i chryfderau.
Daeth y Gymraes yn drydydd yn y 100 metr a’r 200 metr T44 ddechrau’r wythnos, ond mae hi’n benderfynol o fynd allan a mwynhau’r naid hir, doed â ddelo.
Cyn dechrau’r gystadleuaeth heddiw, dywedodd Laura Sugar wrth golwg360: “Dw i mor hapus i gael ennill dwy fedal efydd.
“Dyw’r naid hir ddim yn un o fy hoff gampau, dw i jyst wedi rhoi cynnig arni rywfaint eleni.
“Ond dw i yn teimlo’n hyderus ac fe af fi amdani a’i mwynhau hi a gweld beth fydd yn digwydd.”
Bydd Sugar, fydd yn dechrau swydd newydd fel athrawes ymarfer corff yng Nghaerlŷr yr wythnos nesaf, yn cystadlu heddiw yn erbyn llu o neidwyr blaenllaw, gan gynnwys y Ffrances Marie-Amelie Le Fur, cyn-ddeilydd record y byd (5.45 metr), a’r Brydeinwraig a dorrodd y record gyda naid o 5.47 metr, Stef Reid.
Mae Sugar a Reid eisoes wedi mynd benben â’i gilydd yr wythnos hon, pan orffennodd Reid yn bedwerydd y tu ôl i Sugar yn y 100 metr ddydd Mawrth.
Beth bynnag fydd y canlyniad heddiw, mae Laura Sugar wedi creu cryn argraff yn Abertawe, flwyddyn yn unig wedi iddi gael ei dosbarthu ym myd athletau.
I’r ferch oedd yn arfer chwarae hoci i Gymru cyn troi at fyd athletau, mae unrhyw beth yn bosib.
Stef Reid
Tra mai rhedeg yw cryfder Laura Sugar, mae’r fedal aur yn sicr o fewn cyrraedd Stef Reid y prynhawn ma.
Enillodd hi’r fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012, gyda naid o 5.28 metr.
Ond roedd siom iddi yng Ngemau’r Gymanwlad gan nad oedd y naid hir ar y rhaglen ar gyfer para-athletwyr.
Ar ddiwrnod gwyntog yn Abertawe, dywedodd Stef Reid wrth golwg360: “Pe bai’r gwynt yn troi rownd yn barod ar gyfer y naid hir, byddwn i’n hapus.
“Dw i’n teimlo’n hyderus iawn ar gyfer y naid hir.
“Dyma’r flwyddyn gyntaf i fi gael cysondeb, nid yn unig o ran y perfformiad, ond yn gyffredinol.
“Dw i’n rhydd i gystadlu nawr.
“Does dim angen i fi fynd trwy symbyliadau yn fy mhen, sy’n deimlad gwych.
“Rydyn ni wedi egluro ein bod ni’n canolbwyntio ar y naid hir.”
Y prif wrthwynebwyr
Mi fydd pencampwraig y byd, Iris Pruysen o’r Iseldiroedd hefyd yn cystadlu heddiw, ac mae hi’n sicr yn un o’r ffefrynnau ar gyfer y fedal aur.
Hefyd yn cystadlu mae’r Ffrances Marie-Amelie Le Fur, enillydd y fedal aur yn y ras 400 metr y bore ma, wedi iddi guro Marlou van Rhijn o’r Iseldiroedd.
Bydd y gystadleuaeth hon yn dechrau am 4.15yh, ac fe gewch chi ragor o wybodaeth ar y blog byw a rhagor o ymateb ar ddiwedd y gystadleuaeth.