Enillodd y Gymraes Josie Pearson fedal arian yn y taflu pastwn yn Abertawe y bore ma, wrth gasglu 941 o bwyntiau, a’i thafliad gorau’n mynd 14.02 metr.
Taflodd hi dri thafliad annilys yn ystod y gystadleuaeth, a’r swyddogion yn dadlau nad oedd ei thechneg o daflu’n addas.
Torrodd Jo Butterfield o Brydain y record Ewropeaidd wrth ennill y fedal aur am dafliad 0 17.68 metr wrth iddi gasglu 1110 o bwyntiau, a chipiodd Gemma Prescott, hefyd o Brydain, fedal efydd am dafliad o 20.39 metr wrth gasglu 905 o bwyntiau.
Oherwydd bod dau ddosbarth wedi cyfuno ar gyfer y gystadleuaeth hon, y pwyntiau sy’n penderfynu ym mha safle mae’r athletwyr yn gorffen.
Josie Pearson
Mae Pearson, sy’n dod o’r Gelli Gandryll, yn bencampwraig y byd a Pharalympaidd yn y gamp hon, wedi iddi droi o fyd rygbi cadair olwyn, lle mai hi oedd y ferch gyntaf i gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd, a hynny yn Beijing yn 2008.
Yn nosbarth T52 ym myd athletau’r trac, gorffennodd hi’n bumed ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2011 dros 100 metr a hefyd yn y 800 metr.
Yn dilyn perfformiad siomedig yn y 200 metr yn yr un pencampwriaethau, gwnaeth hi roi’r gorau i athletau’r trac yn dilyn cyngor meddygol a throi at y maes.
Roedd hi’n bumed wrth daflu’r pastwn yng Ngemau Paralympaidd Llundain, ond enillodd hi’r fedal aur yn y ddisgen yn nosbarth F51-33 gyda thafliad o 6.58 metr.
Enillodd hi’r fedal efydd wrth daflu pastwn ym Mhencampwriaethau’r Byd yn 2013 yn Lyon gyda thafliad o 14.01, a’r fedal aur wrth gipio record y byd am dafliad o 7.09 yn y ddisgen.
Roedd disgwyl iddi gystadlu yn y ddisgen yn Abertawe, ond cafodd y gystadleuaeth ei diddymu ar y funud olaf.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, dywedodd Josie Pearson: “Roedd yn gystadleuaeth rwystredig i fi.
“Roedd yna fater technegol gyda’r ffordd ro’n i’n taflu ac roedden nhw’n tynnu sylw ato fe o hyd.
“Mae’r rheolau wedi bod yn eu lle drwy’r tymor ond dyma’r tro cyntaf i rywun fy nghosbi.
“Mae’n drueni bod hynny wedi digwydd ym Mhencampwriaethau Ewrop.
“Dw i’n falch gyda medal arian yn fy ail hoff gystadleuaeth, felly alla i ddim cwyno.”