Y ffrae dros sylwadau Malky Mackay'n parhau
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi galw ar bennaeth Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair (LMA), Richard Bevan, i ymddiswyddo ar unwaith am amddiffyn sylwadau dadleuol Malky Mackay.
Ddoe fe ryddhaodd yr LMA ddatganiad yn beirniadu sylwadau hiliol gan Mackay, cyn-reolwr Caerdydd.
Ond yn yr un datganiad fe geisiodd yr LMA amddiffyn sylwadau Mackay, a wnaeth mewn negeseuon i gyn-bennaeth recriwtio Caerdydd Iain Moody, gan eu disgrifio fel ‘cellwair cyfeillgar’.
Mae Caerdydd nawr wedi mynnu fod pennaeth yr LMA yn gadael ar unwaith – gan eu cyhuddo o wybod am y sylwadau sarhaus rhwng Mackay a Moody ers misoedd.
Beirniadu’r LMA
Yn y datganiad mae Caerdydd yn mynnu mai un o amcanion y Gymdeithas yw “annog arfer da a chwrteisi ym mhob gweithgaredd proffesiynol”, rhywbeth maen nhw’n dweud sydd wedi cael ei wneud yn achos Mackay a Moody.
Mae’r clwb hefyd wedi taro nôl i feirniadaeth yr LMA am amseru’r sylwadau yn dod y gyhoeddus – fe anfonodd Caerdydd wybodaeth am y sylwadau i’r Gymdeithas Bêl-droed (FA) fel yr oedd Mackay ar fin cael ei benodi’n rheolwr ar Crystal Palace, sydd bellach wedi tynnu’r cynnig yn ôl.
Mae Mackay bellach wedi ymddiheuro am ei sylwadau, er ei fod yn dweud mai dwy neges yn unig oedd yn sarhaus, ac mae Iain Moody wedi ymddiswyddo o’i swydd bresennol gyda Crystal Palace.
“Mae’r LMA wedi gwybod am ac wedi bod mewn meddiant o’r sylwadau sarhaus ers misoedd,” meddai datganiad clwb Caerdydd.
Mwy na dwy neges
Dywedodd clwb Caerdydd wrth Moody a Mackay y byddai’n rhaid iddyn nhw ddatgelu’r wybodaeth am y negeseuon i’r FA pe na bai nhw’n gwneud, ond na wnaethon nhw hynny – a bod cyfreithwyr yr LMA yn gwybod am hyn.
Ac fe gwestiynon nhw awgrym yr LMA mai dim ond ambell i neges sarhaus oedd wedi’i anfon gan Mackay.
“Roedd yr LMA felly’n rhan o ymgais i guddio’r negeseuon hyn (ac roedd llawer mwy ohonynt na’r ddau decst y mae Mackay wedi cydnabod),” meddai’r datganiad.
“Rydym felly’n ei gweld hi’n gwbl warthus fod yr LMA wedi rhoi datganiad allan sydd yn ceisio disgrifio sylwadau hiliol difrifol fel ‘cellwair cyfeillgar’.
“Os mai dyna farn yr LMA, fel sydd yn ymddangos yn eu datganiad, nid ydym yn credu y gall Richard Bevan aros yn ei swydd ac rydym yn galw arno i ymddiswyddo.”
Mae pêl-droedwyr proffesiynol gan gynnwys Stan Collymore a Jason Roberts hefyd wedi beirniadu’r LMA am eu datganiad ddoe.