Mae Abertawe wedi arwyddo chwaraewr canol cae Tottenham, Tom Carroll, am dymor cyfan wrth i Garry Monk orffen ychwanegu at ei garfan.
Mae’r Sais 22 oed wedi chwarae 23 o weithiau i Spurs yn ystod ei yrfa, yn bennaf mewn gemau cwpan ond hefyd mewn ambell gêm yn yr Uwch Gynghrair.
Bydd yn cynnig opsiwn arall i Abertawe yng nghanol cae, yn enwedig gan fod Leon Britton a’r chwaraewr ifanc Jay Fulton wedi’u hanafu ar hyn o bryd.
Fe allai Carroll fod ar gael ar gyfer gêm yr Elyrch fory, pan fyddwn nhw’n herio Burnley yn Stadiwm Liberty yn eu gêm gartref gyntaf o’r tymor.
Mae Carroll wedi treulio cyfnodau ar fenthyg, yn Leyton Orient, Derby a QPR, cyn ei drosglwyddiad diweddaraf i dde Cymru.