Mae James Hook yn targedu llwyddiant gyda Chaerloyw fel ffordd i sicrhau ei le yn nhîm Cymru ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf, gan ychwanegu at ei 76 o gapiau.

Ymunodd â’r Saeson wedi Cyfnod yn Ffrainc gyda Perpignan.

‘‘Yr wyf wedi gwireddu llawer o’r pethau y gwnes freuddwydio amdanyn nhw wrth dyfu i fyny, ond mae pob chwaraewr yn edrych ymlaen at ryw her newydd.  Yr wyf yn gobeithio o hyd y caf fod yn rhan o’r tîm cenedlaethol ac rwy’n gweithio’n galed ar gyfer hynny.  Ar ôl i Perpignan ddisgyn y tymor diwethaf yr oedd yn rhaid edrych am glwb arall.  Cefais gynigion yn Ffrainc a Siapan ond yr oedd y cynnig i arwyddo i Gaerloyw yn un rhy dda i’w wrthod ac yn rhoi cyfle i mi chwarae yng Nghynghrair AVIVA,’’ meddai Hook.

‘‘Mae Caerloyw yn glwb da ac wedi arwyddo chwaraewyr da dros yr haf.  Mae’n rhoi’r cyfle i mi chwarae yn erbyn chwaraewyr arbennig o dda bob wythnos,’’ ychwanegodd Hook.

Bydd Hook yn herio Dan Biggar, Rhys Priestland, Rhys Patchell a’r gŵr ifanc o Seland Newydd sydd wedi arwyddo i’r Gleision, Gareth Anscombe, am le yn y tîm cenedlaethol.