Mae Malcolm ‘Malky’ Mackay wedi ymddiheuro am anfon dau neges testun oedd yn amharchus tuag at ddiwylliannau eraill.

Mae cyn-reolwr Caerdydd ac Iain Moody i’r clwb hefyd yn cael eu cyhuddo o anfon negeseuon aflednais.  Cafodd y ddau eu diswyddo gan Gaerdydd y tymor diwethaf.

Mewn datganiad ar ran Cymdeithas y Rheolwyr dywedwyd bod Mackay yn ymddiheuro os oedd wedi achosi loes i unrhyw un.  Dywedodd Cymdeithas y Rheolwyr iddyn nhw edrych ar 10,000 o negeseuon testun gan Mackay a chaslgu y gallai dau ohonyn nhw achosi amharch i ddiwylliannau eraill.  Yn ôl y Gymdeithas fe wnaeth Mackay anfon y negeseuon pan oedd dan bwysau mawr yn ei waith ac mae ychydig o sbri rhwng ef a Moody oedd y negeseuon.

Dywedir bod Mackay yn poeni yn fawr am yr adroddiadau camarweiniol sydd wedi eu gwneud ynglŷn â’r negeseuon.  Mae wedi mynegi ei fod yn barod i gydweithio gyda’r Gymdeithas Bêl-droed i drafod y mater.

Cyn y ffrwgwd negeseuon tecst, Mackay oedd y ffefryn i fod yn rheolwr nesaf Crystal Palace.  Ond nid felly erbyn hyn.

Ers i’r stori dorri mae Iain Moody wedi ymddiswyddo o’i waith yn Gyfarwyddwr Chwaraeon Crystal Palace.