Fe daflodd Casnewydd fantais o ddwy gôl i ffwrdd wrth yn Morcambe y prynhawn yma yng Nghynghrair Dau.
Roedd gŵyr Gwent yn edrych yn gyfforddus ar ôl i Adam Chapman ac Aaron O’Connor rwydo dwy gôl mewn tair munud i roi Casnewydd 2-0 ar y blaen o fewn llai na hanner awr.
Ond mae’n amlwg fod y pryd o dafod a gafodd Morcambe ar yr egwyl wedi gweithio, ac o fewn llai nac ugain munud i ddechrau’r ail hanner roedd y gêm yn gyfartal, gyda’r ymosodwr Kevin Ellison yn rhwydo ar ôl 58 a 63 munud.
Doedd Morcambe ddim wedi gorffen chwaith, wrth i Paul Mullin benio’r gôl fuddugol gyda chwe munud i fynd ac anfon Casnewydd adref i dde Cymru yn pendroni sut yn union y llwyddon nhw i golli’r gêm.