Roedd gôl gynnar Louis Moult yn ddigon i gipio buddugoliaeth i Wrecsam mewn gêm agos yn erbyn Nuneaton yn y Gyngres.

Rhwydodd Moult yn erbyn ei gyn-glwb ar ôl pedair munud yn unig, ac felly’r arhosodd hi gyda’r un o’r ddau dîm yn bygwth rhyw lawer o flaen y gôl.

Roedd hefyd yn ganlyniad nodedig i reolwr Wrecsam Kevin Wilkin, a adawodd Nuneaton i ymuno â’r Dreigiau y tymor diwethaf.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i nawfed yn y tabl, a hynny ar ôl iddyn nhw golli eu gêm gartref cyntaf o’r tymor 3-0 yn erbyn Gateshead nos Fawrth.