Kenwyne Jones oedd yr arwr i Gaerdydd wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 3-1 dros Huddersfield yn eu gêm gartref cyntaf o’r tymor.
Rhwydodd Peter Whittingham y gôl agoriadol i Gaerdydd gydag ergyd hyfryd o 25 llathen ar ôl 28 munud, ac fe ddyblodd Jones eu mantais saith munud yn ddiweddarach gan danio’r bêl i’r rhwyd ar yr ail gynnig wedi i’r golwr arbed y tro cyntaf.
Cipiodd Huddersfield gôl yn ôl cyn hanner amser diolch i Murray Wallace, ond ar ôl deg munud o’r ail hanner roedd Jones wedi rhwydo’i ail, a thrydedd Caerdydd, gydag ergyd y tu mewn i’r cwrt cosbi.
Ac felly’r arhosodd hi, gyda Chaerdydd yn cipio’u buddugoliaeth cyntaf o’r tymor sy’n eu codi i drydydd yn nhabl y Bencampwriaeth.