Mae Michael Hogan wedi cipio hanner cant o wicedi mewn tymor i Forgannwg am yr ail waith yn ei yrfa fer gyda’r Cymry.

Ar ddechrau batiad Swydd Essex yn Abertawe, roedd angen dwy wiced ar yr Awstraliad i ailadrodd y gamp a gyflawnodd y tymor diwethaf.

Nick Browne oedd wiced rhif 49 i Hogan, wrth i’r batiwr ifanc ddarganfod dwylo diogel Dean Cosker yn y gwli, ac fe ddechreuodd y dathliadau pan darodd Hogan goes Bopara o flaen y wiced.

Cipiodd Hogan drydedd wiced – wiced rhif 51 am y tymor – wrth i Tom Westley ergydio’n syth i Murray Goodwin, ac roedd Swydd Essex wedi cyrraedd 42-3 erbyn amser te.