Mae wedi bod yn brynhawn prysur i Gaerdydd ar drothwy eu gêm gartref cyntaf o’r tymor fory, wrth i’r clwb arwyddo dau chwaraewr newydd.
Fe gadarnhaodd y clwb heddiw bod Anthony Pilkington a Sean Morrison wedi ymuno â’r Adar Gleision o glybiau eraill yn y Bencampwriaeth – Pilkington o Norwich a Morrison o Reading.
Bydd Pilkington yn cynnig rhagor o opsiynau i’r rheolwr Ole Gunnar Solskjaer ar yr asgell, tra bod Morrison yn cryfhau canol yr amddiffyn, ac fe ddylai’r ddau fod ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Huddersfield fory.
Fe arwyddodd Pilkington, sy’n 26 oed, gytundeb am dair blynedd gyda Chaerdydd, tra bod Morrison, sydd yn 23 oed, wedi arwyddo am bedair blynedd.
Dyw’r clwb heb ddweud faint maen nhw wedi’i dalu am y ddau chwaraewr.