Federico Macheda
Bydd Huddersfield a Chaerdydd yn herio’i gilydd yfory am dri, a’r tro diwetha’ iddyn nhw chwarae roedd hi’n gêm ddi-sgôr yn Stadiwm Galpharm yn Chwefror 2013.

‘‘Ni allaf aros i chwarae Caerdydd o flaen torf fawr.  Dyna’r rheswm yr wyf mor hoff o’r gêm,’’ meddai Mark Lillis sydd yng ngofal Huddersfield ar ôl i’r rheolwr Mark Robins gael ei ddiswyddo ar ôl un gêm o’r tymor yn y Bencampwriaeth.

Mae’r ffaith i Mark Robins golli ei swydd ar ôl un gêm yn dangos mor fregus yw safle’r hyfforddwr yn ôl Ole Gunnar Solskjaer.

Fe wnaeth Guido Burgstaller sgorio ei gôl gyntaf dros Gaerdydd yn erbyn Coventry nos Fercher ac yr oedd ei berfformiad yn ddigon effeithiol i sicrhau ei le yn erbyn Huddersfield ar yr asgell dde.

Mae’r asgellwr Anthony Pilkington bron â chwblhau ei drosglwyddiad o Norwich i dîm y brif ddinas ac mae’n debyg o fod ymysg yr eilyddion.  Mae Federico Macheda, Kagisho Dikgacoi a Javi Guerra wedi dechrau ymarfer yn dilyn anafiadau ac mae Juan Cala wedi ei wahardd.

Ni fydd Craig Noone a Ben Turner ar gael oherwydd anafiadau.  Ni fydd cyn-chwaraewr Caerdydd Anthony Gerrard, na’r ymosodwr James Vaughan, ar gael i Huddersfield.