Dwy gôl i Neymar neithiwr (llun: ABr/Tania Rego)
Mae Brasil a Mecsico wedi sicrhau eu lle yn rownd 16 olaf Cwpan y Byd ar ôl i’r ddau dîm ennill neithiwr yn eu gemau olaf yng Ngrŵp A.
Roedd Brasil yn gyfforddus drwy gydol y gêm yn erbyn Cameroon, oedd ar waelod y grŵp, gyda Neymar yn sgorio gôl gynnar i setlo’r nerfau.
Fe sgoriodd Cameroon yn annisgwyl hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf wrth i Frasil fethu a delio â chroesiad o’r chwith, a Joel Matip yn rhwydo’n rhwydd.
Ond cyn yr egwyl roedd Brasil ar y blaen unwaith eto, gydag ail gôl i Neymar ar ôl iddo ddawnsio heibio i’r amddiffynnwr a thanio o ymyl y cwrt cosbi.
Sicrhawyd buddugoliaeth gyfforddus yn yr ail hanner gyda goliau gan Fred a Fernandinho, gyda’r sgôr terfynol o 4-1 yn sicrhau mai Brasil sydd yn ennill y grŵp.
Mecsico’n agos
Am y rhan fwyaf o’u gêm yn erbyn Croatia roedd y sgôr yn un agos tu hwnt, gyda’r Croatiaid angen ennill er mwyn dianc o’r grŵp a Mecsico’n hapus â phwynt.
Mecsico oedd y tîm cryfaf drwy gydol y gêm, ond wrth i’r cyfleoedd basio roedd y tensiwn yn dechrau codi.
Ond gydag ugain munud i fynd fe beniodd capten Mecsico, Rafael Marquez, ei dîm ar y blaen, ac o hynny ymlaen roedden nhw’n ddigon cyfforddus.
O fewn deg munud roedden nhw wedi rhwydo dwy arall, gyda goliau i Andres Guardado a Javier Hernandez, a dim ond un arall oedd angen arnyn nhw i basio Brasil ar frig y grŵp gyda gwahaniaeth goliau.
Ond fe sgoriodd Ivan Perisic gôl hwyr i’r Croatiaid i roi diwedd ar y gobeithion hynny, a 3-1 oedd y sgôr terfynol.
Iseldiroedd yn cipio Grŵp B
Bydd Mecsico nawr yn wynebu’r Iseldiroedd yn y rownd nesaf ar ôl i dîm Louis Van Gaal gipio buddugoliaeth o 2-0 dros Chile i ennill Grŵp B.
Roedd y gêm yma hefyd yn ddi-sgôr am y rhan fwyaf ohoni, cyn i beniad yr eilydd Leroy Fer roi’r Iseldiroedd ar y blaen.
Wrth i Chile wthio am goliau ar y diwedd, fe redodd Arjen Robben yn rhydd i lawr yr asgell chwith a chroesi i Memphis Depay rwydo ail yn y munud olaf.
Chile felly fydd yn wynebu Brasil yn rownd nesaf y gystadleuaeth.
Gêm olaf Villa
Gyda’r sylw i gyd ar yr ornest rhwng yr Iseldiroedd a Chile doedd neb yn talu fawr o sylw i Sbaen ac Awstralia, y ddau dîm oedd eisoes allan o’r gystadleuaeth.
Er i Awstralia ddechrau’n dda roedd Sbaen yn llawer rhy gryf iddyn nhw yn y diwedd, gyda David Villa’n rhwydo’r gôl agoriadol gyda’i ffêr ar ei ymddangosiad olaf dros ei wlad.
Fe ychwanegwyd goliau gan Fernando Torres a Juan Mata i’w gwneud hi’n 3-0 erbyn y chwib olaf, ond fydd hynny’n fawr o gysur i Sbaen ar ôl ymgyrch drychinebus yng Nghwpan y Byd.
Gemau heddiw
Yr Eidal v Uruguay (5.00yp)
Lloegr v Costa Rica (5.00yp)
Ffrainc v Ecuador (9.00yh)
Swistir v Honduras (9.00yh)
Pigion eraill
Tip i chi – peidiwch â digio seren fawr eich gwrthwynebwyr o fewn chwarter awr i’r gêm.
Dyna’n union wnaeth un o chwaraewyr Cameroon i Neymar neithiwr, gan ei wthio’n slei i’r llawr o flaen llu o ffotograffwyr.
Fe gododd hwnnw, wedi’i gythruddo, a mynd ymlaen i sgorio dwy gôl. Wps.
Roedd yr emosiwn yn ormod i un o chwaraewyr Sbaen hefyd, gyda David Villa’n ymddeol o’r crys coch gyda 59 gôl mewn 97 cap, a dwy Bencampwriaeth Ewrop a Chwpan y Byd hefyd yn y cwpwrdd.
Fe sgoriodd gôl hyfryd yn yr hanner cyntaf i roi Sbaen ar y blaen.
Ond wrth gael ei eilyddio doedd o methu stopio’r dagrau rhag llifo.
Dydi o heb ymddeol yn swyddogol, ond ag yntau’n 32 ac yn symud i chwarae yn Melbourne y tymor nesaf, dyma oedd ymddangosiad olaf y prif sgoriwr yn hanes Sbaen i bob pwrpas.