Stadiwm Dinas Caerdydd
Bydd Tlysau Cynghrair y Pencampwyr, Cynghrair Europa a Super Cup UEFA yn mynd ar daith ar draws Cymru o Awst 1-11 wrth arwain at rownd derfynol Super Cup UEFA rhwng Real Madrid a Sevilla.
Mae Real Madrid, pencampwyr Cynghrair y Pencampwyr yn herio Sevilla, pencampwyr Cynghrair Europa ar Awst 12 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd y daith trwy Gymru yn cyfuno adeiladau hanesyddol ynghyd â chysylltiadau i’r holl gystadlaethau UEFA.
Bydd y daith yn dechrau ym Mharc y Ddraig yng Nghasnewydd, yna i Wrecsam – man geni’r FAW, yna ymlaen i Eryri, Bangor, Aberystwyth a Llanelli cyn gorffen ei thaith yng Nghaerdydd.
Ym mhob lleoliad bydd yna gromen i arddangos y tlysau, a bydd y cyhoedd yn gallu cael eu llun wedi’u tynnu wrth ymyl y tlysau.
‘Hyrwyddo pêl-droed ar lawr gwlad’
Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr FAW:
“Dyma’r tro cyntaf y bydd pob un o dlysau UEFA yn cael eu dangos yng Nghymru ac rydym yn awyddus i ddefnyddio’r daith fel cyfle i hyrwyddo pêl-droed ar lawr gwlad ledled Cymru.
“Mae’r amseru yn berffaith o ran adeiladu cyffro wrth arwain at y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd rhwng Real Madrid a Sevilla.”
‘Edrych ymlaen yn arw’
Bydd rhai o sêr mwyaf adnabyddus y byd pêl-droed yn chwarae yn y gêm, gan gynnwys, Gareth Bale.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y Super Cup yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Byddai’n chwarae yn fy nhref enedigol, o flaen fy nheulu a ffrindiau. Bydd hi’n ddigwyddiad ffantastig,” dywedodd Gareth.