Bydd pedwerydd tymor Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn dechrau gyda thaith i herio Man U a Louis van Gaal.
Bydd yr ornest honno’n cael ei chynnal ar Awst 16 am 3yp ac yn nodi dechrau tymor llawn cyntaf Garry Monk fel rheolwr Abertawe a dechrau cyfnod Louis van Gaal fel rheolwr Man U.
Wythnos yn ddiweddarach, fe fydd yr Elyrch yn croesawu’r newydd-ddyfodiaid Burnley i’r Liberty.
Bydd yr Elyrch yn brysur dros adeg y Nadolig hefyd, wrth iddyn nhw groesawu Aston Villa i’r ddinas ar Ddydd San Steffan, cyn teithio i Anfield i wynebu Lerpwl a’r cyn-reolwr Brendan Rodgers ar Ragfyr 28.
Byddan nhw wedyn yn teithio i Loftus Road ar Ddydd Calan i herio QPR.
Daw’r tymor i ben ar Fai 24 gydag ymweliad i Selhurst Park i wynebu Crystal Palace, wythnos ar ôl y gêm olaf ar y Liberty yn erbyn Man City ar Fai 16.
Gorffennodd yr Elyrch yn ddeuddegfed yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.
Cewch weld y rhestr yn llawn yma.