Dries Mertens (llun: AP/Hassan Ammar)
Roedd llawer o bobl wedi aros yn eiddgar i wylio Gwlad Belg wrth yng Nghwpan y Byd o’r diwedd, gydag ond un grŵp eto i chwarae ddoe.

Ond dechrau petrusgar gafwyd i dwrnament y tîm mae llawer wedi dewis fel eu ceffylau tywyll er iddyn nhw ennill 2-1, wrth i Algeria rhoi gêm galed iddyn nhw a bron â chipio canlyniad.

Gwlad Belg oedd yn rheoli’r meddiant yn yr hanner cyntaf ond ddim yn gwneud llawer â’r bêl, gan gyfyngu’i hunain i saethu o bellter yn aml.

Ac fe aeth Algeria ar y blaen yn annisgwyl hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf ar ôl i Jan Vertonghen lusgo Sofiane Feghouli i’r llawr yn y cwrt cosbi, a Feghouli’n codi i blannu’r bêl heibio i Courtois o’r smotyn.

Ond ar ôl yr egwyl fe newidiodd pethau, gyda Marouane Fellaini a Dries Mertens yn dod i’r cae i Wlad Belg, ac ar ôl 70 munud o chwarae fe ddaeth peniad Fellaini a’r Belgiaid yn gyfartal.

A phwy oedd yno i fachu’r gôl fuddugol ddeg munud o’r diwedd ond yr eilydd arall, Mertens, a daranodd ergyd i do’r rhwyd ar ôl pas Eden Hazard.

Rhannu’r pwyntiau

Yn y gêm hwyr neithiwr yng Ngrŵp H, rhwng y ddau dîm olaf i ddechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd, cyfartal oedd hi rhwng Rwsia a De Corea o 1-1.

Y Coreaid gafodd y gorau o’r hanner cyntaf gyda’r Rwsiaid yn barod i eistedd yn ôl, ond doedd dim llawer o gyfleoedd i’r naill ochr.

Yna ar ôl 68 munud roedd De Corea ar y blaen, ar ôl i ergyd Lee Keun-ho o bellter lwyddo i lithro o afael y golwr Igor Akinfeev ac i mewn i’r rhwyd.

Fe sbardunodd hynny Rwsia, a ddaeth ag ymosodwr ychwanegol Alexandr Kerzhakov i’r maes, a chwe munud wedi gôl y Coreaid roedd Rwsia’n gyfartal wedi i Kerzhakov fanteisio ar bêl rydd yn y cwrt cosbi.

Fodd bynnag, doedd Rwsia methu ffeindio’r gôl fuddugol, sy’n golygu mai’r Belgiaid sydd ar y brig ar hyn o bryd.

Brasil yn siomi

Erbyn i Rwsia a De Corea ddechrau eu hymgyrch nhw roedd dau dîm eisoes wedi chwarae eu hail gêm yng Nghwpan y Byd, wrth i Frasil a Mecsico fynd benben yn Fortaleza.

Llwyddodd Mecsico i gipio gêm gyfartal annisgwyl ar ôl gêm ddi-sgôr, gyda Brasil ddim yn edrych yn gymaint o fygythiad ymosodol ag yr oedd pobl wedi disgwyl.

Neymar gafodd y gorau o’u cyfleoedd yn yr hanner cyntaf, gyda pheniad gafodd ei harbed yn wych gan golwr Mecsico Guillermo Ochoa.

Fe ddaeth y Brasiliaid yn agos yn yr ail hanner hefyd, gyda Paulinho, Jo a Thiago Silva i gyd yn methu cyfleoedd da.

Ond doedd dim diffyg bygythiad gan Fecsico chwaith, gyda Giovanni dos Santos, Raul Jimenez ac Andres Guardado yn cael cyfleoedd hwyr hefyd.

Siomedig oedd ymosod Brasil ar y cyfan, yn enwedig Fred, gyda Neymar a Bernard hefyd yn euog o fod yn wastraffus â’r meddiant yn yr ail hanner.

Maen nhw’n dal ar frig y grŵp ac yn debygol iawn o gyrraedd y rownd nesaf bellach, ond nid dyma berfformiad pencampwyr.

Gemau heddiw

Yr Iseldiroedd v Awstralia (5.00yp)

Sbaen v Chile (8.00yh)

Cameroon v Croatia (11.00yh)

Pigion eraill

Wrth i’r timau ddod allan yn Fortaleza ddoe fe sylweddolodd llawer ar steil gwallt newydd Dani Alves, ac un reit anarferol ar ôl dweud hynny.

Mae’n ymddangos fod yr amddiffynnwr wedi hepgor y blonde a phenderfynu lliwio’i wallt yn rhyw liw llwyd – ac yna parhau i ddynwared hen ddyn gyda’i arafwch amddiffynnol.

Nid fo oedd yr unig un chwaith – mae’n edrych fel petai wedi rhoi gweddill y botel liwio i Neymar …


Neymar yn edrych fel petai'n difaru copio Alves yn barod