Rheolwr yr Almaen, Joachim Low (llun: AP/Matthias Schrader)
Dechreuodd yr Almaen, un o ffefrynnau’r gystadleuaeth, eu hymgyrch Cwpan y Byd yn hyderus iawn wrth iddyn nhw chwalu Portiwgal o 4-0 mewn gêm a oedd i bob pwrpas ar ben erbyn hanner amser.

Fe ddaeth diwedd y gêm fel cystadleuaeth pan gafodd Pepe, amddiffynnwr Portiwgal, gerdyn coch ar ôl iddo daro’r Almaenwr Thomas Muller efo’i ben.

Os Pepe oedd rhannol gyfrifol dros fethiant Portiwgal, Muller oedd yn gyfrifol am lwyddiant yr Almaen wrth iddo sgorio dwy gôl, ynghyd â gôl gan Mats Hummels, cyn i’r hanner cyntaf ddod i ben.

Roedd yr ail hanner i’w weld yn fwy fel sesiwn ymarfer i’r Almaen ac fe wnaeth gôl arall i Muller yn yr ail hanner sicrhau ei hat-tric, y cyntaf o’r gystadleuaeth, a chadarnhau cryfder yr Almaen.

Dechreuodd Portiwgal y gêm gyda’r gobaith realistig o gyrraedd y rowndiau hwyrach, ond ar ôl y 45 munud agoriadol roedd gobeithion y tîm yn deilchion.

Mae dal siawns ganddyn nhw o ddianc o’r grŵp ond bydd rhaid iddyn nhw chwarae yn well yn erbyn yr Unol Daleithiau a Ghana.

Gol hwyr i’r Unol Daleithiau

Yng ngêm arall Grŵp G, yr Unol Daleithiau oedd yn fuddugol o 2-1 wrth iddynt sgorio gôl hwyr yn erbyn Ghana.

Daeth gôl gyntaf yr Americaniaid o fewn y munud cyntaf wrth i Clint Dempsey redeg trwy amddiffynwyr Ghana yn rhy hawdd.

Am weddill y gêm, Ghana oedd i’w weld y mwyaf tebygol o sgorio, ac ar ôl cyfnod hir o bwyso fe sgorion nhw yn yr 82fed munud ac roedd gôl arall i’r tîm o Affrica i’w weld yn bosibiliad.

Fodd bynnag, pedair munud yn hwyrach, fe sgoriodd John Brooks o gig gornel i sicrhau bod Jurgen Klinsmann a’i dîm yn dechrau’r gystadleuaeth gyda buddugoliaeth, a nawr bydd y tîm llawn hyder wrth iddynt herio Portiwgal a’r Almaen.

Gem i’w anghofio

Roedd hi’n anochel y byddai’n rhaid i Gwpan y Byd weld ei gêm gyfartal a ddi-sgôr cyntaf rywbryd, ond roedd y gêm rhwng Iran a Nigeria mor ddiflas, mae’n anodd meddwl am beth i ‘sgwennu.

Yn gyntaf, bydd Nigeria wedi’u siomi’n fawr iawn gyda’r canlyniad sydd yn golygu eu bod yn wynebu her fawr i ddianc o’r grwpiau bellach, gyda gemau yn erbyn yr Ariannin a Bosnia-Herzegovina i ddod.

I’r rhai wyliodd y gêm neithiwr, does dim rhaid dweud llawer. O’i gymharu â’r gemau sydd wedi’u chwarae yn barod, rydyn ni’n annhebygol o weld gem yr un mor ddiflas trwy’r gystadleuaeth.

I’r rhai oedd digon lwcus i fethu’r gêm, da iawn chi.

Gemau heddiw

Gwlad Belg v Algeria (5.00yp)

Brasil v Mecsico (8.00yh)

Rwsia v De Corea (11.00yh)

Pigion eraill

Dydi o ddim yn edrych fel petai’r holl Doritos a shampŵs am ddim mae golwr Lloegr Joe Hart wedi’i gael o wneud hysbysebion wedi gwneud unrhyw beth i’w dymer.

Roedd y clip yma’n gwneud y rownds ar wefannau cymdeithasol ddoe, ond rhag ofn nad ydych chi wedi’i weld eto mae’n werth cael cip!

Saff dweud na fydd y ball boy anffodus yn cefnogi Lloegr am weddill y twrnament, ar ôl i Hart roi llond ceg iddo yn y gêm yn erbyn yr Eidal (rhybudd – iaith anweddus):

Fe ymddangosodd clip arall ar y we ddoe hefyd o sesiwn ymarfer Brasil, gyda Dani Alves wrthi’n chwarae ‘keepy-uppies’.

Yn sydyn reit, dyma’i reolwr Luis Felipe Scolari’n cerdded heibio – ac o nunlle, yn rhoi cic iddo mewn man sensitif iawn …

Yn dilyn rhagor o drafferth i’r thyg-bêl-droediwr Pepe ddoe, fe ddechreuodd rhai pobl sylwi ar batrwm oedd y dechrau datblygu gyda chwaraewyr Real Madrid a Chwpan y Byd.

Mae Gareth Bale wrth gwrs adref yn gwylio’r cyfan ar y teli, a Ronaldo wedi gweld Portiwgal yn cael cweir dim diolch i stumiau Pepe (a Muller) – gêm ble aeth Fabio Coentrao oddi ar y cae ag anaf hefyd.

Mae’n debyg fod  Iker Casillas, Sergio Ramos ac Alvaro Arbeloa’n dal i lyfu’u clwyfau ar ôl i’r Iseldiroedd eu maeddu nhw nos Wener, gyda Casillas a Ramos yn enwedig yn siomedig.

Ac fe rwydodd Marcelo i’w gôl ei hun o fewn deg munud i ddechrau Cwpan y Byd – tybed pa fath o anffawd sydd i ddod i Luka Modric ac Angel di Maria?

Yn olaf, fe gafodd Phil Neville dipyn o sdic ar Twitter am ei berfformiad diflas ar y naw fel sylwebydd yn y gêm rhwng Lloegr a’r Eidal nos Wener.

Mae cyn-chwaraewr Man United ac Everton wedi cymryd y peth mewn hwyliau da, ond mae unigolyn arall hefyd wedi derbyn cwynion annisgwyl dros y wefan gymdeithasol.

Gwerthwr gwresogyddion yw Phil Neville o Suffolk – neu @philneville ar Twitter (un y sylwebydd yw @fizzer18) – a gafodd lwyth o drydariadau’n ei feirniadu am fod mor ddiflas.

Mae bellach wedi cynnig camu mewn i ’sgidiau’r Neville enwocach – gwyliwch y gofod yma.