Jacques Rudolph (Llun: Cricketers' Who's Who 2014)
Sgoriodd y batiwr o Dde Affrica, Jacques Rudolph 103 i Forgannwg ar ail ddiwrnod yr ornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaerdydd heddiw.

Cyrhaeddodd y Cymry 337-4 erbyn diwedd y dydd.

Dyma’r tro cyntaf i un o fatwyr Morgannwg gyrraedd y garreg filltir mewn unrhyw gystadleuaeth y tymor hwn, a’r tro cyntaf i Rudolph sgorio canred ers 2012.

Adeiladodd Rudolph a’r capten Mark Wallace bartneriaeth o 181 cyn i Wallace golli ei wiced am 82.

Chris Cooke a Jim Allenby sydd wrth y llain i Forgannwg, sydd wedi sicrhau tri phwynt bonws batio wedi iddyn nhw sicrhau pwyntiau bonws bowlio llawn wrth fowlio Swydd Gaint allan am 253.

Michael Hogan oedd seren y bowlio i Forgannwg, wrth iddo gipio pum wiced am 58.

Sgorfwrdd llawn yma.