Kagisho Dikgacoi yn chwarae i Crystal Palace (llun: John Walton/PA)
Mae Caerdydd wedi arwyddo chwaraewr canol cae Crystal Palace, Kagisho Dikgacoi, yn ôl adroddiadau niferus.

Roedd cytundeb y gŵr 24 oed o Dde Affrica’n dod i ben yr haf hwn, a dim arwydd ei fod wedi ailarwyddo â’i glwb presennol.

Mae nawr yn ymddangos ei fod wedi penderfynu ymuno â Chaerdydd yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf yn hytrach nag aros gyda Palace yn yr Uwch Gynghrair, er nad yw’r clwb wedi cadarnhau’n swyddogol eto.

Fe chwaraeodd Dikgacoi 26 o weithiau dros Crystal Palace y tymor diwethaf wrth iddyn nhw aros i fyny yn gyfforddus.

Dikgacoi fyddai’r pumed chwaraewr i ymuno â Chaerdydd eisoes yr haf hwn, gyda’r ymosodwyr Javi Guerra, Adam Le Fondre a Federico Macheda a’r chwaraewr canol cae Guido Bergstaller hefyd yn symud i dde Cymru.

Ond mae amheuon dros rai o brif sêr yr Adar Gleision, gan gynnwys Gary Medel, Steven Caulker a Frazier Campbell.

Mae cymalau yng nghytundebau’r tri fyddai’n golygu bod ganddynt hawl i symud petai cynnig digonol yn cael ei wneud amdanynt.