Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd y clwb yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth saith bob ochr o glybiau’r byd, a gynhelir yn Twickenham dros benwythnos y 16-17 Awst.

Bydd cyfanswm o 12 tîm, o saith cenedl, yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Bydd pob tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar y diwrnod cyntaf, cyn rhannu i dair cystadleuaeth wahanol ar yr ail ddiwrnod, gyda’r clybiau blaenllaw yn cystadlu am y cyfle i gael eu coroni’n clwb saith bob ochr gorau rygbi.

Dywedodd Paul John, Hyfforddwr Ymosod y Gleision a chyn-hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru: “Rydym wrth ein bodd fel rhanbarth i allu chwarae mewn cystadleuaeth o’r fath ac wynebu clybiau o’r radd flaenaf o bob cwr o’r byd rygbi.

“Mae’n gyfle gwych i’r Gleision parhau a’r paratoadau ar gyfer tymor newydd y PRO12 yn erbyn rhai o gewri rygbi Hemisffer y De a’r gorau o’r Unol Daleithiau.”

O’r timau sydd wedi’u cadarnhau yn barod, yn ymuno a’r Gleision fe fydd y Vodacom Blue Bulls, Auckland Blues, NSW Waratahs, DHL Western Provence a Buenos Aires o hemisffer y De, yn ogystal â thîm saith bob ochr Efrog Newydd a Seattle o’r Unol Daleithiau.