Mae rhedwyr yn cael eu gwahodd i gofrestru am her arbennig i rasio yn erbyn trên stem yng Ngogledd Cymru.

Eleni, bydd rhedwyr yn hel arian at elusen Gweithredu dros Blant a byddant yn ceisio rasio’r trên ar hyd llwybr rheilffordd Tal-y-llyn.

Mae’r cwrs 14 milltir yn rhedeg ochr yn ochr â’r rheilffordd ar ei daith o Dywyn i Abergynolwyn ac yn ôl.

Mae mwy na 2,000 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras bob blwyddyn ac mae hi wedi bod yn mynd ers 1983.

Meddai Abigail Henderson o  Gweithredu dros Blant yng Nghymru: “Rydym yn gobeithio y bydd pobl sydd am ymgymryd â’r her yn gwneud hynny er budd Gweithredu dros Blant.

“Rydym eisoes wedi gweld dipyn o bobl yn cofrestru i gymryd rhan ac mae ’na ysbryd tîm gwych ymhlith y rhedwyr.

“Dydyn ni ddim eisiau i neb golli’r cyfle, felly mae’n wirioneddol bwysig bod unrhyw un sydd am gymryd rhan yn cofrestru’n fuan.”

I gofrestru, ewch i www.racethetrain.com.