Pedwar dewis o grys amgen Caerdydd
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n lansio cit glas newydd i gefnogwyr clwb y ddinas, a hynny erbyn dechrau’r tymor newydd.

Gall cefnogwyr bleidleisio dros eu hoff grys allan o bedwar dewis, gyda’r un mwyaf poblogaidd wedyn yn cael ei werthu i gefnogwyr fel opsiwn amgen.

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o gefnogwyr Caerdydd wedi dangos eu hanfodlonrwydd â pherchennog y clwb Vincent Tan am newid lliw’r cit i goch.

Maen nhw am i’r clwb ddychwelyd i chwarae mewn cit glas, ac wedi protestio y tu allan i’r stadiwm fwy nag unwaith yn ddiweddar i alw am hynny.

Serch hynny, nid yw Tan wedi newid ei feddwl, gan ddweud na fydd yn ystyried gwyrdroi ei benderfyniad nes y bydd y clwb yn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair.

Dewis o bedwar

Mae’r Ymddiriedolaeth felly wedi mynd ati i ddylunio cit glas newydd ar gyfer y cefnogwyr, gyda’r arian o werthu’r crys hefyd yn mynd at gefnogi elusen Tŷ Hafan.

“Y syniad gwreiddiol oedd datblygu crys glas o safon wedi’i ddylunio’n dda gyda’r fantais ychwanegol o gefnogi elusen leol wych,” meddai aelod o’r Ymddiriedolaeth, Phil Jones, a feddyliodd am y syniad.

“Mae pethau wedi mynd o fanno wedyn. Rwyf wrth fy modd fod y peth am gael ei wireddu.”

Kukri fydd gwneuthurwyr y cit,  fydd ar werth am £27 i oedolion a £22 i blant, a £5 o werthiant pob crys yn mynd i Tŷ Hafan.

Mae’r cynllun hefyd wedi denu cefnogaeth grwpiau cefnogwyr eraill, gan gynnwys Clwb Cefnogwyr Dinas Caerdydd, Bluebirds Unite, Clwb 1927 a’r gwefannau CCMB a Cardiff City Forum.

Gall cefnogwyr ddewis  eu hoff grys o’r pedwar cynllun drwy bleidleisio ar wefan WalesOnline, gyda’r pôl yn cau ar ddiwedd yr wythnos.