Daeth yr ornest rhwng Swydd Gaerloyw a Morgannwg i ben ar ddiwedd y batiad cyntaf, yn dilyn cyfres o gawodydd a stormydd trwm ym Mryste.

Llwyddodd Swydd Gaerloyw i gyrraedd 207-3 oddi ar 20 pelawd, diolch i 74 gan y capten Michael Klinger, ond doedd dim rhagor o griced yn bosib wedi 5yh, sy’n golygu bod y timau’n ennill dau bwynt yr un.

Y Cyfnod Clatsio

Wedi iddyn nhw alw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf, dechreuodd Swydd Gaerloyw’n hyderus, wrth i’r capten Michael Klinger daro Graham Wagg i’r ffin i gyrraedd 10-0 oddi ar y belawd gyntaf.

Cafodd Michael Hogan ei daro ddwywaith i’r ffin gyda dwy ergyd draddodiadol drwy’r cyfar gan Klinger yn yr ail belawd, wrth i’r tîm cartref ddyblu eu cyfanswm i 20-0.

Sgoriodd Alex Gidman ddau bedwar yn y belawd nesaf, gan wyro’r bêl oddi ar ei goesau i ffin y goes fain bell ddwywaith wrth i lein Wagg symud draw i’r wiced goes.

Ymunodd Klinger yn yr hwyl cyn diwedd y belawd, gan yrru Wagg trwy’r cyfar i ymestyn y cyfanswm i 33-0.

Cafodd Hogan ei ddisodli gan Will Owen yn y bedwaredd pelawd wrth i’r ymwelwyr geisio atal y llif rediadau a bu bron i Gidman gael ei fowlio wrth ddarganfod ymyl y bat i lawr ochr y goes, cyn i Owen fowlio pelen lydan oddi ar ei ymgais nesaf.

Tynnodd Gidman belen fer gan Owen i ffin y goes fain bell wrth i’r bowliwr ildio chwe rhediad yn unig – y cyfanswm wedi pedair pelawd yn 39-0.

Newidiodd Hogan i’r pen arall ar gyfer y belawd nesaf yn lle Wagg ond cafodd ei lansio am chwech dros ei ben gan Klinger cyn i Will Owen gam-faesu ac ildio pedwar i lawr ochr y goes wrth i Swydd Gaerloyw gyrraedd 53-0 oddi ar bum pelawd.

Darren Sammy fowliodd y chweched a chanfod lein addas ar unwaith cyn i Gidman daro’r belen olaf oddi ar ei goesau am bedwar, y cyfanswm felly’n 62-0 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.

Y pelawdau canol

Y troellwr llaw chwith Dean Cosker ddaeth i’r ymosod yn y seithfed pelawd a chael llwyddiant ar unwaith, wrth i Allenby faesu’n gyflym yn y slip a drysu’r batwyr cyn rhedeg Gidman allan am 26 – y cyfanswm yn 63-1.

Daeth cyfle i Sammy ddal Klinger oddi ar belen ola’r belawd ond glaniodd o’i flaen ac ildio un rhediad wrth i’r cyfanswm symud i 66-1.

Y troellwr coes achlysurol Jacques Rudolph gafodd ei gyfle yn yr wythfed wrth iddi ddod i’r amlwg fod digon o amrywiaeth yn y llain ar gyfer y troellwyr.

Ildiodd bum rhediad yn unig wrth i’r tîm cartref gyrraedd 71-1.

Daeth chwe rhediad oddi ar y nawfed gan Cosker, wrth iddo gael ei daro dros ei ben gan Ian Cockbain i ddifetha pelawd oedd wedi llwyddo i atal y llif tan y belen olaf – y cyfanswm yn 77-1.

Dwy belen o’r degfed pelawd fowliodd Sammy cyn i’r glaw ddod a gorfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae – y sgôr yn 79-1 – ond ail-ddechreuodd yr ornest ymhen hanner awr a Sammy yn cwblhau’r belawd gan ildio pum rhediad yn unig ni gyrraedd 82-1 wedi hanner y pelawdau.

Cosker ddychwelodd i fowlio’r unfed pelawd ar ddeg a methu darganfod ei lein wrth iddo fowlio pelen lydan ar yr ochr agored wrth i’r tîm cartref gyrraedd 88-1 erbyn diwedd y belawd.

Cyrhaeddodd Klinger ei hanner canred yn ystod y ddeuddgfed pelawd oddi ar 36 o belenni wrth i Swydd Gaerloyw ddod o fewn pedwar rhediad i gyfanswm o 100.

Cafodd Cosker ei daro am bedwar trwy’r cyfar oddi ar ail belen y belawd nesaf, wrth iddo benderfynu bowlio oddi ar bellter o 23 o lathenni wrth geisio cynnig amrywiaeth – y cyfanswm yn 108-1 oddi ar 13 o belawdau.

Cafodd Will Owen ei daro i ffin y goes fain bell gan Klinger oddi ar belen gynta’r bedwaredd pelawd ar ddeg cyn i Cockbain ei daro trwy’r cyfar am bedwar arall wrth gynyddu’r pwysau ar y Cymry a chyrraedd 122-1.

Sammy ddychwelodd i fowlio’r bymthegfed a chael ei daro am bedwar oddi ar belen wag am groesi’r llain – cafodd y belen rydd ei tharo gan Cockbain dros ben yr eisteddle i falconi fflat cyfagos, a’r belawd felly’n costio 18 o rediadau i Forgannwg wrth i Swydd Gaerloyw gyrraedd 140-1.

Y pelawdau clo

Hogan ddychwelodd ar gyfer yr unfed pelawd ar bymtheg i gipio wiced Klinger am 70 oddi ar 47 o belenni – Darren Sammy yn dal ergyd syth ar yr ochr agored ger y ffin y cyfanswm yn 141-2.

Daeth Geraint Jones i’r llain a tharo Hogan drwy’r cyfar am bedwar heibio i Wagg – y cyfanswm yn 146-2 erbyn diwedd y belawd.

Daeth cyfle i Owen ddal Cockbain ar y ffin yn y cyfar ond collodd olwg ar y bêl ac ildio pedwar, y cyfanswm yn 153-2 oddi ar 17 o belawdau.

Tarodd Geraint Jones y bêl dros ben Sammy ddechrau’r ddeunawfed belawd wrth i Swydd Gaerloyw geisio manteisio ar y pelawdau clo.

Pelen wag a ddilynodd a chyfle arall i gael ergyd rydd oddi ar Sammy – Cockbain yn taro’n syth i ddwylo Hogan ond heb golli’i wiced.

Cafodd Cockbain ei ollwng gan Rudolph yn y cyfar oddi ar belen nesaf cyn i Sammy fowlio pelen wag arall, y belen rydd yn cael ei tharo’n syth ar ochr y goes am chwech – 174-2 gyda dwy belawd yn weddill.

Daeth cawod drom o law ar ddechrau’r belawd olaf ond un, y cyfanswm wedi cyrraedd 175-2, a dychwelodd y chwaraewyr yn fuan wedyn wrth i Geraint Jones dorri Hogan yn sgwâr am chwech.

Yr un oedd y canlyniad oddi ar y belen nesaf, Jones yn tynnu am chwech trwy ochr y goes ond talodd Hogan y pwyth yn ôl gyda’i belen nesaf, gan dynnu wiced ganol y batiwr-wicedwr allan o’r ddaear – y cyfanswm yn 190-3 gyda phelawd yn weddill o’r batiad.

Wagg fowliodd y belawd olaf a chael ei daro oddi ar yr ail belen gan Cockbain am chwech dros ganol-wiced a chyrhaeddodd y batiwr ei hanner cant (37 o belenni) oddi ar y belen nesaf.

Cyrhaeddodd Swydd Gaerloyw 200 gydag ergyd i’r ffin gan Cockbain oddi ar belen araf gan Wagg.

Gorffennodd Swydd Gaerloyw’r batiad yn y glaw ar 207-3 – 67 o rediadau’n dod oddi ar y pum pelawd olaf.

Penderfynodd y dyfarnwyr nad oedd modd parhau toc wedi 5yh oherwydd cyfuniad o law, stormydd a golau gwael, a daeth yr ornest i ben yn gyfartal, dau bwynt yr un.