Siroedd Llai Cymru
Mae Siroedd Llai Cymru’n dechrau ar eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth heddiw, wrth i Swydd Amwythig deithio i Bontarddulais.

Galwodd Siroedd Llai Cymru’n gywir a phenderfynu bowlio’n gyntaf.

Roedd y ddwy sir yn ail a thrydydd yn adran orllewinol y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

Ond cafodd y Cymry siom yn y gwpan eleni, wedi iddyn nhw fethu symud ymlaen o’r grwpiau.

Mae eu carfan yn cynnwys chwaraewr amryddawn Morgannwg, Ruaidhri Smith.

Mae dyfodol capten yr ymwelwyr, Richard Oliver gyda’r sir yn ansicr, wedi iddo gael cynnig cytundeb proffesiynol gyda Swydd Gaerwrangon tan ddiwedd y tymor nesaf.

Gwnaeth y batiwr 24 oed argraff yn dilyn cyfnod prawf gyda’r sir, ac fe allai ychwanegu ei enw at restr sy’n cynnwys Jack Shantry a Joe Leach o chwaraewyr y sir sydd wedi symud ymlaen i gynrychioli Swydd Gaerwrangon.

Carfan Siroedd Llai Cymru: S Davies, R Lloyd, G Davies, A Norman, J Denning, C Brown, T Baker, N Davies, D Penrhyn-Jones, R Smith, L Carey, D Thomas