Mae Jade Jones wedi ennill medal aur taekwondo yn y Swiss Open yn Lausanne brynhawn yma.
Cafodd y ferch o’r Fflint fuddugoliaeth agos 2-1 dros Eva Calvo Gomez o Sbaen yn yr adran dan 57kg, gan ddial am ei cholled i’r Sbaenes yn Grand Prix y Byd ym Manceinion ym mis Rhagfyr.
Roedd y Gymraes, gafodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain, wedi ennill y ddwy rownd flaenorol yn gyfforddus – 7-1 yn erbyn Aline Dossou Gbete o Ffrainc, ac yna 14-2 yn erbyn Raheleh Asemani o Wlad Belg.
Yn anffodus i Jade Jones a Chymru nid yw taekwondo yn un o gampau Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow, a fydd yn cychwyn ar Orffennaf 23.