Mae Morgannwg yn aros yn ne-orllewin Lloegr dros y penwythnos, wrth iddyn nhw herio Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw o fewn tridiau.
Yn dilyn buddugoliaeth o saith rhediad yn Taunton neithiwr, bydd y Cymry o flaen camerâu Sky Sports fory ym Mryste.
Roedd Swydd Gaerloyw’n fuddugol neithiwr yn erbyn Siarcod Swydd Sussex o bedwar rhediad.
Hyd yn hyn, mae Morgannwg wedi ennill tair gornest allan o bedwar, a’u gwrthwynebwyr wedi ennill dwy allan o bedair.
Y tymor diwethaf, Swydd Gaerloyw oedd yn fuddugol yng Ngholeg Cheltenham o ddeg wiced, cyn trechu’r Cymry o naw wiced yn Stadiwm Swalec wythnos yn ddiweddarach.
Y tro diwethaf i Forgannwg chwarae ym Mryste yn yr un gystadleuaeth, daeth yr ornest i ben heb i’r un belen gael ei bowlio oherwydd y glaw.
Morgannwg oedd yn fuddugol o ddeg wiced yn 2011, gan fowlio Swydd Gaerloyw allan am 81, ddwy flynedd wedi i Ben Wright a’r diweddar Tom Maynard rannu partneriaeth o 97 yn ystod eu buddugoliaeth yn 2009.
Mae carfan Swydd Gaerloyw yn cynnwys cyn-wicedwr Lloegr, Geraint Jones sydd ar fenthyg am ddeufis o Swydd Gaint.
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, M Goodwin, C Cooke, D Sammy, B Wright, S Walters, G Wagg, D Cosker, A Salter, M Hogan, W Owen
Carfan 12 dyn Swydd Gaerloyw: M Klinger (capten), A Gidman, H Marshall, I Cockbain, B Howell, G Jones, T Smith, L Norwell, G McCarter, J Taylor, M Taylor, D Housego