Gwnaeth penderfyniad Morgannwg i fatio’n gyntaf neithiwr yn Taunton ddwyn ffrwyth, wedi iddyn nhw drechu Gwlad yr Haf o saith rhediad yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Hon oedd ail fuddugoliaeth y Cymry mewn deg ymgais oddi cartref yn erbyn y sir gyfagos.

Seren batiad Morgannwg oedd y capten, Jim Allenby (96*) wrth iddo helpu ei dîm i gyfanswm o 176.

Tarodd Peter Trego yn ôl gyda 94* ond doedd hynny ddim yn ddigon i gyrraedd y nod.

Y cyfnod clatsio

Dangosodd Allenby ei fwriad o’r cychwyn cyntaf, gan daro Trego i’r ffin ddwywaith yn y belawd gyntaf wrth i’r cyfanswm gyrraedd 9-0.

Yn dilyn ail belawd dynn gan Dirk Nannes – oedd i fod i symud i Forgannwg y tymor diwethaf cyn i anaf ei orfodi i dynnu allan – cafodd Trego ei dynnu allan o’r ymosod a’i ddisodli gan Craig Overton.

Ond fawr o lwc gafodd e chwaith, wrth i Allenby ei daro am chwech wrth i’r cyfanswm symud ymlaen i 22-0 ar ôl tair.

Ymunodd Jacques Rudolph yn yr hwyl yn y bedwaredd belawd, gan dorri Nannes yn sgwâr i’r ffin i gyrraedd 29-0.

Daeth 11 o rediadau oddi ar y bumed, wrth i Allenby gyrraedd 29* oddi ar 16 o belenni, wedi’i gefnogi gan Rudolph y pen arall – y cyfanswm yn 40-0.

Daeth naw o rediadau oddi ar y chweched, wedi’i bowlio gan Craig Meschede fel bod Morgannwg yn gorffen y cyfnod clatsio ar 49-0.

Wrth ymateb i gyfnod clatsio llwyddiannus gyda’r bat i Forgannwg, dechreuad siomedig gafodd Gwlad yr Haf, wrth i’r agorwr Marcus Trescothick gael ei ddal gan y wicedwr Mark Wallace oddi ar bedwaredd belen y belawd, wedi’i bowlio gan Graham Wagg.

Bowliodd Michael Hogan belawd dynn nesaf, dau rediad yn unig oddi ar yr ail belawd, Gwlad yr Haf yn 6-1.

Cipiodd Wagg ei ail wiced yn y drydedd pelawd, wrth i Craig Kieswetter gael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Andrew Salter.

Pelawd dynn arall oedd y bedwaredd, wedi’i bowlio gan Darren Sammy, y tîm cartref yn cyrraedd 19-2.

Cyn-gapten Morgannwg, Alviro Petersen wnaeth y niwed yn y bumed, gan daro Hogan am chwech dros ei ben i gyrraedd 27-2.

Wnaeth honno roi’r momentwm i Wlad yr Haf, wrth i Allenby gael ei daro am bymtheg rhediad yn y chweched – 42-2 oedd y cyfanswm erbyn diwedd y cyfnod clatsio – saith rhediad y tu ôl i Forgannwg ar yr un adeg.

Y pelawdau canol

Symudodd Morgannwg ymlaen i 59-0 erbyn diwedd y seithfed pelawd, diolch i ragor o glatsio gan Allenby, ond llwyddodd Gwlad yr Haf i atal y llif wrth iddyn nhw gyflwyno’r troellwr coes, Max Waller i’r ymosod, gan ildio pum rhediad yn unig oddi ar ei belawd gyntaf.

Gafaelodd Rudolph yn Meschede yn y belawd nesaf, a’i sgubio’n wrthol am chwech, wrth i Forgannwg gyrraedd 74-0 oddi ar naw o belawdau.

Daeth pedwar rhediad arall i Rudolph yn y belawd nesaf oddi ar Waller, cyn i Allenby gyrraedd ei hanner cant yn y ddeuddegfed oddi ar 32 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys chwech ergyd i’r ffin ac un ergyd dros y ffin erbyn hynny.

Ond buan y daeth llygedyn o obaith i Wlad yr Haf, wrth i Rudolph gael ei ddal yn gampus gan Trego oddi ar Waller am 40 – y cyfanswm bellach yn 92-1.

Daeth seren yr ornest yn erbyn Swydd Sussex, Chris Cooke i’r llain a tharo chwech cyn colli’i wiced am 18 rhediad yn unig – Morgannwg yn 128-2 oddi ar 15 o belawdau.

Trodd Morgannwg at eu troellwr llaw chwith, Dean Cosker i fowlio’r seithfed pelawd – wyth rhediad oddi arni wrth i Wlad yr Haf gyrraedd eu hanner cant.

Pelawd anffodus a ddilynodd i Forgannwg wrth i Darren Sammy gael ei daro am ddeuddeg rhediad.

Ond cipiodd Dean Cosker ddaliad y noson yn y belawd nesaf oddi ar Andrew Salter, y maeswr yn plymio i’w ochr i ddal Petersen oddi ar sgubiad wrthol uchelgeisiol – Gwlad yr Haf bellach yn 71-3.

Ar yr hanner, roedd Gwlad yr Haf yn 75-3 – saith rhediad y tu ôl i gyfanswm Morgannwg ar yr un adeg.

Daeth naw rhediad oddi ar y belawd nesaf cyn i Trego daro dwy ergyd i’r ffin oddi ar y ddeuddegfed pelawd ac ergyd arall i’r ffin oddi ar y belawd nesaf, wrth i’r tîm cartref gyrraedd y cant.

Daeth rhagor o ergydion i’r ffin yn y bedwaredd pelawd ar ddeg a’r bymthegfed wrth i Wlad yr Haf gyrraedd 121-3 gyda phum pelawd yn weddill – 18 o rediadau y tu ôl i Forgannwg ar yr un adeg.

Y pelawdau clo

Tri rhediad yn unig ddaeth oddi ar yr unfed belawd ar bymtheg, y belawd pan gollodd Darern Sammy ei wiced am dri rhediad yn unig, wedi’i ddal gan y wicedwr Craig Kieswetter.

Tarodd Allenby chwech anferth i symud ei gyfanswm personol i 82* a sgôr Morgannwg yn 147-2 gyda thair pelawd yn weddill.

Roedd Allenby yn nesau at ei ganred cyntaf yn y T20 a’r cyntaf i Forgannwg ers Ian Thomas yn 2004, wrth i Forgannwg symud ymlaen i 165-3 oddi ar 19 o belawdau.

Daeth unarddeg o rediadau oddi ar y belawd olaf, gan osod nod o 177 i Wlad yr Haf am y fuddugoliaeth – Jim Allenby yn 96* oddi ar 59 o belawdau mewn batiad oedd yn cynnwys naw ergyd i’r ffin a thair ergyd dros y ffin.

Daeth saith rhediad oddi ar belawd rhif 16 i Wlad yr Haf, y cyfanswm yn 128-3 a dilynodd pelawd dynn arall yn yr ail ar bymtheg, gan olygu bod gan y tîm cartref nod o 43 oddi ar 18 o belenni.

Daeth deuddeg o rediadau oddi ar y ddeunawfed pelawd, wrth i Trego gyrraedd 80* – ei sgôr gorau yn y gystadleuaeth hon, ond roedd pelawd dynn gan Hogan yn y bedwaredd ar bymtheg yn golygu bod angen 27 o rediadau oddi ar y belawd olaf, gafodd ei bowlio gan Wagg.

Tarodd Trego dair ergyd i’r ffin oddi ar y tair pelen gyntaf, ond llwyddodd Wagg i gyfyngu’r cyfanswm i 169-4, Hogan yn dal Hildreth oddi ar belen ola’r ornest.

Bydd Morgannwg yn aros yn ne-orllewin Lloegr dros y penwythnos, wrth iddyn nhw herio Swydd Gaerloyw fory, y cyfan yn fyw ar Sky Sports.