Y blaenasgellwr Dan Lydiate fydd capten Cymru nos Fawrth yn erbyn Eastern Province Kings yn Ne Affrica.

Dyma fydd gêm gynta’r daith cyn i’r Cymry chwarae dwy gêm brawf yn erbyn y Springboks.

Mae Matthew Morgan wedi ei ddewis yn safle’r cefnwr ar ôl iddo greu argraff yn y gêm dreial yn Abertawe, tra bod wythwr addawol y Gweilch, Dan Baker, hefyd yn dechrau.

Mae cyn-gapten Cymru Matthew Rees, a gafodd driniaeth am ganser yn ystod y tymor, ar y fainc ynghyd â’r gwibiwr o Ynys Môn, George North.

Yn ôl Warren Gatland mae’r gêm yn “gyfle i weld sawl aelod o’r garfan yn gwisgo crys Cymru ac yn cynrychioli eu gwlad, a gweld sut maen nhw’n ymdopi ‘da’r gêm a’r pwysau.”

Ychwanegodd fod chwarae dwy gêm o fewn pedwar diwrnod yn mynd i fod yn baratoad da ar gyfer amserlen Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

Dyma’r tîm yn llawn, y gic gyntaf am 6 o’r gloch amser Cymru, nos Fawrth:

Matthew Morgan (Gweilch), Alex Cuthbert (Gleision), Cory Allen (Gleision), Steven Shingler (Sgarlets), Jordan Williams (Sgarlets), James Hook (Perpignan), Rhodri Williams (Sgarlets), Paul James (Caerfaddon), Scott Baldwin (Gweilch), Rhodri Jones (Sgarlets), Jake Ball (Sgarlets), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (Capten) (Racing Metro), Josh Turnbull (Sgarlets), Dan Baker (Gweilch).

Eilyddion: Matthew Rees (Gleision), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Luke Charteris (Perpignan), Aaron Shingler (Sgarlets), Gareth Davies (Sgarlets), George North (Northampton), Liam Williams (Sgarlets).