Mae hyfforddwr clwb rygbi’r gynghrair y Crusaders o ogledd Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd y gêm yn erbyn Swinton Lions b’nawn Sul ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Ar hyn o bryd mae’r Crusaders ddau bwynt y tu ôl i’r Batley Bulldogs sy’n nawfed yn y gynghrair.
‘‘Gyda’n gêm yn amrywio dipyn ar hyn o bryd mae hon yn gêm fawr i ni,” meddai Clive Griffiths.
“Fe wnaethon ni guro Swinton yn gynharach yn y tymor ac fe fyddan nhw am dalu’r pwyth yn ôl. Mae gyda nhw, fel ni, lawer i chwarae amdano.
‘‘Yr ydym wedi bod yn siomedig yn nifer o’n gemau cartref. Cawsom ganlyniadau gwael yn erbyn Rochdale a Keighley ond mae’r gêm hon yn gyfle da i’r bechgyn i ddangos eu gallu.”
Mae Seb Martins yn dychwelyd I dîm y Crusaders ond mae’n debyg y bydd Andy Moulsdale allan am weddill y tymor. Bydd Jamie Dallimore, Craig Ashall a Tommy Johnson yn cael prawf ffitrwydd cyn y bydd Griffiths yn enwi ei dîm.