Joe Allen yn ei ddyddiau yn Abertawe - bydd y briodas yn yr ardal
Fe fydd y chwaraewr canol cae Joe Allen yn gwneud dau beth am y tro cynta yr wythnos yma – bod yn gapten ar ei wlad, a phriodi.

Yn ogystal ag arwain tîm Cymru yn yr Iseldiroedd ar y cae heno fe fydd yn priodi yng Nghymru dros y Sul – band y capten a modrwy.

“Mae’n wythnos eithaf arbennig i fi,” meddai wrth gefnogwyr ei glwb, Lerpwl. “Mae gyda fi gêm anferth i ddod yn y lle cyntaf ac ar ôl hynny fe fydd yn fy nharo i.

“Dw i ddim yn credu y galla i feddwl am ddydd Sadwrn eto – un her ar y tro! Mae’r ddwy yn heriau anferth.”

Bydd Allen, 24, yn arwain ei wlad yn Amsterdam am y tro cynta’ heno wrth i’r Iseldiroedd baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.