Gareth Bale
Mae Gareth Bale wedi tynnu nôl o garfan Cymru i wynebu’r Iseldiroedd wythnos nesa.

Ddydd Sadwrn, fe sgoriodd ail gol Real Madrid wrth iddyn nhw ennill cwpan y pencampwyr am y degfed tro.

Fodd bynnag, mae Bale wedi tynnu nôl o garfan Chris Coleman oherwydd anaf meddai datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd y datganiad na fydd Gareth Bale yn teithio i’r Iseldiroedd oherwydd anaf i’w goes sydd wedi bod yn ei boeni ers rhai wythnosau.

Bydd  George Williams o Fulham yn cymryd ei le.