Tîm Ysgol Plasmawr (llun: Gwyn Jones)
Digon gobeithiol yn hytrach na hyderus oedd tôn hyfforddwr Ysgol Plasmawr cyn un o dwrnamentau ysgolion mwyaf Prydain dros y penwythnos.

Ond fe fydd cryn ddathlu gan y tîm heddiw ar ôl iddyn nhw ennill Cwpan Allen McKinstry yn erbyn ysgolion o weddill Prydain a sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i Dîm yr Wythnos golwg360!

Roedd Plasmawr yn wynebu her enfawr ar ôl cael eu dewis i chwarae yn erbyn pencampwyr Lloegr a’r Alban yn grŵp – dau dîm caletaf y gystadleuaeth yn ôl yr hyfforddwr Gwyn Jones.

Ond ar ôl llwyddo i ddod i’r brig yn y gemau hynny fe chwaraeon nhw yn erbyn Coleg Sant Brendan, pencampwyr Gweriniaeth Iwerddon, yn y ffeinal – ac ennill o 1-0 i sicrhau’r tlws.

Dyma’r tro cyntaf i dîm o Gymru ennill y gystadleuaeth rhwng cynrychiolwyr gwledydd ynysoedd Prydain.

Ac er i’r trip i Lilleshall gostio agos i £3,000 i dîm Plasmawr, fe fyddwn nhw’n teimlo ei bod hi wedi bod yn werth bob ceiniog heddiw!