Robbie Earnshaw
Mae clwb pêl-droed Blackpool wedi rhyddhau 17 o chwaraewyr ar ddiwedd y tymor gan gynnwys y rheolwr-chwaraewr dros dro Barry Ferguson.
Ymysg y rhai sy’n gadael mae cyn-flaenwr Cymru a Chaerdydd Robert Earnshaw a ymunodd â nhw yn ystod y tymor. Ni fydd cyn-chwaraewr Caerdydd Michael Chopra yn cael cynnig cytundeb newydd ychwaith ac felly mae’n gadael.
Ar hyn o bryd nid oes gan Blackpool reolwr ac fe wnaethan nhw orffen y tymor yn yr 20fed safle yn y Bencampwriaeth.
Mae Earnshaw wedi ennill 58 o gapiau i Gymru gan sgorio 16 o weithiau i Gymru.