Wilfried Bony
Mae ymosodwr Abertawe, Wilfried Bony wedi’i gynnwys yng ngharfan gychwynnol 28 dyn Côte d’Ivoire ar gyfer Cwpan y Byd yn yr haf.

Ymunodd Bony, 25, ag Abertawe o Vitesse Arnhem yn yr Iseldiroedd haf diwethaf, ac fe sgoriodd e 24 o goliau’r tymor hwn, gan gynnwys 16 yn yr Uwch Gynghrair.

Mae e wedi’i enwi mewn carfan sydd hefyd yn cynnwys Yaya Toure, Kolo Toure, Cheick Tiote a Didier Drogba.

Fe fydd y garfan yn cael ei chwtogi i 23 dyn cyn i’r gystadleuaeth ddechrau ar Fehefin 12.

Mae Côte d’Ivoire yng Ngrŵp C, ynghyd â Groeg, Colombia a Siapan.

Eisoes, mae Bony wedi bod yn hawlio sylw clybiau mawr yr Uwch Gynghrair, gan gynnwys Arsenal ac Everton.

Roedd adroddiadau’n ddiweddar hefyd yn ei gysylltu â Borussia Dortmund yn Yr Almaen.

Ond mae e wedi mynegi’i ddymuniad i aros yn Abertawe am dymor arall.

Yn y cyfamser, mae Abertawe wedi dweud nad ydyn nhw wedi cael cais gan Lerpwl i drafod cytundeb â’r golwr Michel Vorm.

Mae gan Vorm ddwy flynedd ar ôl o’i gytundeb gyda’r Elyrch, ond mae rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers yn awyddus i’w arwyddo i gystadlu am le yn erbyn Simon Mignolet.

Pe bai Vorm yn gadael i ail-ymuno â chyn-reolwr Abertawe, fe allai’r Elyrch geisio arwyddo Lukasz Fabianski o Arsenal yn ei le.