Mae’n dra debygol y bydd Morgannwg yn colli am y tro cyntaf y tymor hwn wrth iddyn nhw ddechrau pedwerydd diwrnod eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Hampshire heddiw.

Gorffennodd Morgannwg y trydydd diwrnod â blaenoriaeth o 64 rhediad, ond un wiced yn unig sydd yn weddill o’u hail fatiad.

Roedd y Cymry’n ddi-guro ar ddechrau’r ornest hon yn Southampton ac mae’n ymddangos erbyn hyn y gallai colli’r dafl fod yn dyngedfennol i ganlyniad y gêm.

Diwrnod 1

Cafodd yr ymwelwyr eu gwahodd i fatio ar lain oedd yn cynnig cryn gymorth i’r bowlwyr ar y bore cyntaf, wrth i Forgannwg golli pedair wiced cyn cinio, â’r sgôr yn 92-4.

Cyfrifoldeb Jim Allenby a’r batiwr ifanc, Will Bragg unwaith eto oedd codi’r Cymry allan o ddyfroedd dyfnion.

Fe wnaeth eu hymdrechion ddwyn ffrwyth wrth i’r batiwr ifanc Bragg gwympo un rhediad yn brin o hanner canred, a’r sgôr yn 117-6.

Yn ffodus i Forgannwg, dangosodd y capten Mark Wallace rywfaint o ddycnwch y pen arall wrth i’w dîm golli’r tair wiced nesaf am 42 rhediad yn unig.

Gyda’r sgôr yn 159-9, dechreuodd partneriaeth rhwng Wallace a’r bowliwr ifanc newydd Tom Helm ac fe lwyddon nhw i gipio pwynt bonws wrth gyrraedd 200.

Daeth y bartneriaeth o 65 i ben wrth i Helm gael ei ddal gan y wicedwr Michael Bates oddi ar fowlio Matt Coles, a Morgannwg i gyd allan am 224.

Er gwaetha’r llain werdd, ni chafodd batwyr Swydd Hampshire fawr o drafferth ar ddechrau’r batiad wrth iddyn nhw gyrraedd 119-1 erbyn diwedd y dydd – eu batiwr agoriadol Michael Carberry yn 62 heb fod allan.

Diwrnod 2

Dechreuad gwael gafodd Swydd Hampshire ar ddechrau’r ail fore, wrth i Carberry ychwanegu pedwar rhediad yn unig at ei sgôr dros nos cyn i Jim Allenby gipio’i wiced, wrth i Ruaidhri Smith ei ddal i ddod â phartneriaeth o 108 â Dawson i ben.

Diolch i gyfres o bartneriaethau rhwng cawodydd glaw, cyrhaeddodd y tîm cartref 246-4 cyn colli’r pedair wiced nesaf am 53 o rediadau, gan gynnwys dwy wiced gyntaf Helm i Forgannwg a ffigurau o 4-105 i’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg.

Diwrnod 3

Dechreuodd Swydd Hampshire y trydydd diwrnod â blaenoriaeth o 106 ar 330-8 ond buan y cipiodd Morgannwg ddwy wiced olaf y batiad, gyda wiced yr un i Allenby a Wagg.

Blaenoriaeth o 121 i’r tîm cartref, felly, ac roedd arwyddion cynnar o chwalfa i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw golli tair wiced gynta’r ail fatiad am naw rhediad yn unig – Gareth Rees a Murray Goodwin yn dychwelyd i’r pafiliwn heb sgorio, a’r chwaraewr tramor Jacques Rudolph wedi sgorio’r naw rhediad ar ei ben ei hun hyd hynny.

Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd 60 cyn colli’r bedwaredd wiced, diolch i bartneriaeth o 51 rhwng Bragg a Stewart Walters.

Cafodd batiad Morgannwg ei sefydlogi gan Bragg a Jim Allenby, wrth iddyn nhw gymryd eu hamser i sicrhau partneriaeth o 98.

Ond collodd yr ymwelwyr eu pumed wiced wrth i’r gŵr o Dde Affrica, Kyle Abbott ganfod coes Allenby o flaen y wiced, ac yntau ar 47.

Collodd Bragg (74) yntau ei wiced belawd yn ddiweddarach, ac roedd gobeithion Morgannwg yn dechrau pylu gyda’r sgôr bellach yn 160-6.

Collodd Wallace, Wagg a Smith eu wicedi o fewn 17 pelawd tua diwedd y batiad i gyrraedd 181-9 ar ddiwedd y dydd.

Dean Cosker a Tom Helm sydd wrth y llain i Forgannwg.

Blaenoriaeth o 64 sydd ganddyn nhw ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod, felly, ac mae’n debygol y daw’r ornest i ben cyn cinio heddiw.