Declan John
Mae Declan John a Harry Wilson wedi’u cynnwys yng ngharfan dan-19 Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Rownd Elît Pencampwriaeth Ewrop ar ddiwedd y mis.
Fe enwodd Geraint Williams ei garfan heddiw ar gyfer y tair gêm yn erbyn Gwlad Belg, Portiwgal a Groeg, fydd i gyd yn cael eu chwarae ym Mhortiwgal.
Bydd enillwyr y grŵp rhwng y pedair gwlad yn cyrraedd y pencampwriaethau terfynol yn Hwngari ym mis Gorffennaf eleni.
Mae tri o’r garfan dan-19 hefyd wedi’u cynnwys yng ngharfan y tîm dan-21 fydd yn herio Lloegr mewn gêm ragbrofol Ewro 2015 ar ddydd Llun 19 Mai, gan gynnwys John, Tom O’Sullivan a George Williams.
Cafodd pedwar chwaraewr yr un o Gaerdydd ac Abertawe eu henwi yn y garfan dan-19 fydd yn teithio i Bortiwgal, yn ogystal â chwaraewyr eraill megis Gethin Jones (Everton) a Bradley Reid (Wolves).
Bydd y tîm dan-19 yn chwarae tair gêm mewn chwe diwrnod gan ddechrau gyda Gwlad Belg (28 Mai), Portiwgal (30 Mai) ac yna Groeg (2 Mehefin).
Cyrhaeddodd Cymru’r Rownd Elît ar ôl dod drwy eu grŵp rhagbrofol gyda gôl munud olaf yn erbyn Moldova ym mis Tachwedd.
Fodd bynnag lle ar y rhestr wrth gefn yn unig sydd i Chike Kandi, sgoriwr y gôl hollbwysig honno.
Carfan dan-19 Cymru: Billy O’Brien (Man City), Michael Crowe (Ipswich), Gethin Jones (Everton), Josh Yorwerth (Caerdydd), Thomas James (Caerdydd), Dominic Smith (Amwythig), Declan John (Caerdydd), Harry Wilson (Lerpwl), Rob Evans (Wrecsam), Josh Sheehan (Abertawe), Tom O’Sullivan (Caerdydd), Jordan Evans (Fulham), Declan Weeks (Wolves), George Williams (Fulham), Alex Bray (Abertawe), Bradley Reid (Wolves), Owain Jones (Abertawe), Ryan Hedges (Abertawe)
Wrth gefn: Luke Williams (Aldershot), Callum Preston (Birmingham), Connor Roberts (Abertawe), Tyler Roache (Caerdydd), Curtis Strong (Stoke), Curtis Watkins (Caerdydd), Sam Evans (Abertawe), Jaye Bowen (Caerdydd), Jake Charles (Huddersfield), Alex Samuel (Abertawe), Luke ‘Chike’ Kandi (dim clwb), Callum Saunders (Crewe)