Yfory am dri o’r gloch fe fydd yr Elyrch yn croesawu Southampton i’r Liberty ar gyfer gêm gartref olaf y tymor.

A hwythau eisoes wedi sicrhau eu safle yn Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer y tymor nesaf, mae’r chwaraewr canol cae Leon Britton yn gobeithio y gall Abertawe ennill ei gêm olaf yn y Liberty y tymor yma.

Ond i wneud hynny bydd yn rhaid i’r Elych guro Southampton sy’n debygol o orffen yn yr wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

‘‘Mae wedi bod yn flwyddyn ryfedd.  Mae newidiadau wedi bod ymysg yr hyfforddwyr, roeddwn wedi cystadlu yng nghynghrair Europa ac yn llwyddo i ddianc oddi wrth safleoedd y cwymp gyda buddugoliaethau dros Newcastle ac Aston Villa,’’ meddai Britton.

‘‘Ond os gyrhaeddwn 40 o bwyntiau cyn diwedd y tymor, ac wedi llwyddo i gyrraedd y 32 olaf yng nghynghrair Europa, rwy’n credu ein bod wedi cael ymgyrch da eleni,’’ ychwanegodd Britton.

Yn debyg i Britton mae ymosodwr Abertawe Wilfired Bony yn awyddus i gipio’r 40 pwynt.

‘‘Mae wedi bod yn anodd ac yn ddi-flach mewn ambell i gêm yn y tymor ond yn y pen draw rydym wedi gwneud ein gwaith,’’ meddai Bony.