Caerefrog 1–0 Casnewydd

Mae diweddglo siomedig i dymor cyntaf Casnewydd yn ôl yn y Gynghrair Bêl Droed yn parhau wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Caerefrog ar Bootham Crescent brynhawn Sadwrn.

Cafodd y Cymry hanner cyntaf gwych i’r tymor ond mae pethau wedi arafu braidd ers troad y flwyddyn ond mae tîm Justin Edinburgh yn ddiogel er gwaethaf y golled hon yn y gêm olaf ond un.

Bu bron i Gasnewydd fynd ar y blaen pan beniodd Lee Minshull yn erbyn y postyn o dafliad hir Ryan Jackson ond y tîm cartref a aeth ar y blaen gydag ychydig llai na chwarter awr o’r gêm i fynd.

Ildiodd Kevin Feely gic rydd ar ochr y cwrt cosbi a chafodd y Cymry eu cosbi gan gynnig da Michael Coulson.

Caerefrog oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o sgorio yn y munudau olaf hefyd ond gwnaeth gôl-geidwad Casnewydd, Ian McLoughlin, yn dda i atal cynnigion hwyr Adam Reed a Coulson.

Doedd hynny ddim yn ddigon i newid y canlyniad ac mae Casnewydd yn aros yn bymthegfed yn nhabl yr Ail Adran gyda un gêm ar ôl.

.

Caerefrog

Tîm: McLoughlin, Jackson, Hughes, Porter, Feely, Sandell (O’Connor 45′), Minshull, Chapman (Flynn 85′), Zebroski, Jolley (Jeffers 71′), Willmott

Gôl: Coulson 77’

Cerdyn Melyn: Montrose 30’

.

Casnewydd

Tîm: Pope, Oyebanjo, Davies, Penn, Lowe, McCombe, Brobbel (Bowman 65′), Montrose (Hayhurst 71′), Coulson, Andrew, Reed

.

Torf: 4,531