Abertawe 4–1 Aston Villa
Mae dyfodol Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ddiogel am dymor arall wedi iddynt drechu Aston Villa ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Wilfred Bony a Jonjo Shelvey i’r Elyrch cyn yr egwyl cyn i Pablo Hernández a Bony sicrhau’r tri phwynt gyda dwy arall yn yr ail hanner.
Aeth Abertawe ar y blaen wedi dim ond deg munud pan rwydodd Bony yn dilyn gwaith creu Shelvey.
Unionodd Gabriel Agbonlahor o groesiad Mark Albrighton wedi hynny hanner ffordd trwy’r hanner cyn i’r Elyrch fynd yn ôl ar y blaen bron yn syth.
Wedi creu’r gyntaf, Shelvey, oedd sgoriwr yr ail, a thipyn o gôl oedd hi hefyd wrth i’r chwaraewr canol cae guro Brad Guzan yn y gôl o’r llinell hanner bron.
Sicrhaodd Hernández y tri phwynt pan grymanodd y drydedd gôl ddeunaw munud o’r diwedd cyn i Bony goroni’r fuddugoliaeth o’r smotyn yn yr eiliadau olaf. Cafodd Marvin Emnes ei lorio yn y cwrt gan Nathan Baker ac fe rwydodd Bony ei ail ef a phedwaredd ei dîm o ddeuddeg llath.
Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi Abertawe’n ddeuddegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair gyda dim ond dwy gêm i fynd. Yn dechnegol, fe all Caerdydd a Sunderland orffen y tymor uwch eu penau ond gan fod y ddau dîm hynny’n chwarae ei gilydd yfory mae’r Elyrch fwy neu lai yn ddiogel.
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Rangel (Taylor 77′), Davies, Shelvey, Amat, Williams, Hernández, Britton, Bony, De Guzmán (Fulton 83′), Routledge (Emnes 88′)
Goliau: Bony 10’, 90’, Shelvey 26’, Hernández 73’
Cerdyn Melyn: Amat 77’
.
Aston Villa
Tîm: Guzan, Bacuna (Lowton 45′), Bertrand, Westwood, Vlaar, Baker, El Ahmadi (Holt 75′), Delph, Agbonlahor, Albrighton, Weimann (Robinson 67′)
Gôl: Agbonlahor 22’
Cardiau Melyn: Albrighton 89’, Baker 90’, Westwood 90′
.
Torf: 20,701