Cernyw fydd gwrthwynebwyr cyntaf Siroedd Llai Cymru y tymor hwn, wrth i’r Celtiaid herio’i gilydd yn Nhlws Unicorns ddydd Sul.
Bydd yr ornest yng Ngrŵp 1 ym Mharc Sbyty, Casnewydd yn dechrau am 11yb.
Bydd y Cymry’n gobeithio gwella ar eu perfformiad yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf, wedi iddyn nhw gyrraedd yr wyth olaf yn 2013.
Cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Darren Thomas yw capten y Cymry a hwn yw ei ail dymor llawn fel hyfforddwr.
Mae’r garfan yn cynnwys dau gyn-chwaraewr Morgannwg arall – yr agorwr Aneurin Norman a’r bowliwr cyflym llaw chwith, Alex Jones.
Cafodd carfan 13 dyn ei henwi’n wreiddiol, ond fe fu’n rhaid i Rhodri Evans dynnu allan.
Mae Cernyw wedi enwi carfan 12 dyn ar gyfer yr ymweliad, sy’n cynnwys Liam Norwell a Tom Shrewsbury sy’n chwarae criced dosbarth cyntaf i Swydd Gaerloyw.
Siroedd Llai Cymru: A Norman, G Davies, G Holmes, J Lawlor, C Reid, T Baker, A Jones, D Thomas (capten), N Davies, J Denning, R Edwards, S Pearce
Cernyw: M Robins (capten), J Libby, L Norwell, T Shrewsbury, S Harvey, K Snell, C Whittaker, C Purchase, T Hughes, A Angove, S Hockin, Shakil Ahmed.