Ar ôl i Man U fethu â chael lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y flwyddyn nesa mae Ryan Giggs yn targedu lle yng Nghynghrair yr Europa.

Yn ei gynhadledd i’r wasg gyntaf yn y swydd dywedodd y rheolwr newydd dros-dro ei fod eisiau gweld yr “angerdd” yn dychwelyd i’r clwb sydd wedi bod yn ben ar bêl-droed Lloegr ers ugain mlynedd.

Mae angen i Man U orffen uwchben Tottenham er mwyn cael lle yn yr Europa, sy’n cael llai o barch yn Lloegr na chynghrair y Pencampwyr.

“Dw i eisiau ennill y pedair gêm sy’n weddill,” meddai Giggs.

“Dw i eisiau nosweithiau Ewropeaidd yn Old Trafford, mor blwmp â hynny,” meddai Giggs.

Mae Man U chwe phwynt y tu ôl i Tottenham ar hyn o bryd, ond gydag un gêm mewn llaw.

Nos yfory mae gêm gyntaf Giggs fel giaffar Man U, yn erbyn Norwich, ac mae’r Cymro yn bositif am yr her.

“Maen nhw’n brwydro am eu heinioes felly wnawn ni ddim eu dibrisio nhw,” meddai am Norwich.

“Ond ni yw Manchester United a rydym ni’n disgwyl ennill.”