Bydd tîm pêl-droed Casnewydd yn teithio i chwarae yn erbyn York City ar faes Bootham Crescent gyda’r gic gyntaf am dri yfory. Hon fydd gêm olaf Casnewydd oddi cartref mewn tymor digon cythryblus.
Y gobaith i Gasnewydd yw ailadrodd y perfformiad a gafwyd nôl ym mis Hydref pan gafwyd buddugoliaeth gyfforddus o dair gôl i ddim yn erbyn York.
Mae Ismail Yakubu, Byron Anthony, Jamie Stephens a Danny Crow allan am weddill y tymor oherwydd anafiadau. Mae’r rheolwr Justin Edinburgh wedi dweud wrth ei chwaraewyr, er ei bod yn ddiogel yn y gynghrair bod yn rhaid iddyn nhw chwarae’n dda yn y gêm. Mae’n debyg y bydd Kevin Feely a Darcy Blake yn parhau yng nghanol yr amddiffyn.
‘‘Mae’r chwaraewyr yn cael eu talu gan y clwb ac mae’n ddyletswydd arnynt i’r clwb i’r cefnogwyr ac yn bwysicach na dim iddyn nhw eu hunain i roi perfformiad da, ac yr ydyn yn edrych am fuddugoliaeth,’’ dywedodd Justin Edinburgh.
‘‘Yr oedd y garfan yn siomedig yn dilyn y canlyniad yn erbyn Burton, gan fod y perfformiad yn haeddu buddugoliaeth ond mae’r ymarfer wedi bod yn dda yn ystod yr wythnos,’’ ychwanegodd Edinburgh.