Port Talbot 2–1 Y Bala
Sicrhaodd Port Talbot eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru am dymor arall gyda buddugoliaeth ar y diwrnod olaf yn erbyn y Bala ar y GenQuip brynhawn Sadwrn.
Roedd perygl cyn y gêm i’r Gwŷr Dur orffen yn y ddau safle isaf gan iddynt ddechrau’r dydd yn gyfartal ar 35 pwynt gyda Gap Cei Connah a Phrestatyn. Enillodd Port Talbot y gêm yn y diwedd, nid fod llawer o ots wedi’r cwbl gan na fydd tîm yn esgyn o’r de unwaith eto’r tymor hwn wedi i Hwlffordd golli yn erbyn Penybont.
Hanner Cyntaf
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd da mewn deg munud agoriadol digon cyffrous. Dylai Ian Sheridan fod wedi sgorio i’r Bala a gallai Rhys Griffiths fod wedi sgorio hatric yn y pen arall.
Fe ddaeth y gôl agoriadol yn fuan wedyn pan fanteisiodd Guillem Bauza ar gamgymeriad gwael yn amddiffyn y Bala gan Dave Morley cyn twyllo Ashley Morris yn y gôl a rhwydo.
Daeth y Bala yn fwyfwy i’r gêm wedi hynny a chafodd Mark Connolly gyfle gwych i unioni pethau wedi ugain munud ond peniodd yn syth at y gôl-geidwad cartref, Steven Hall.
Ond fe wnaeth yr ymwelwyr sgorio ychydig funudau’n ddiweddarach a hynny o’r smotyn. Cafodd Stephen Brown ei lorio gan Hall yn y cwrt cosbi cyn codi ar ei draed i guro’r troseddwr o ddeuddeg llath, 1-1 ar hanner amser.
Ail Hanner
Doedd hi ddim cystal gêm wedi’r egwyl ac fe wastraffodd Brown unig gyfle gwirioneddol y Bala gyda chyffyrddiad gwael ag yntau un-ar-un yn erbyn Hall eto.
Fe wnaeth Port Talbot wella yn yr ugain munud olaf serch hynny ac roedd y tîm cartref yn haeddu ennill yn y diwedd diolch i beniad Griffiths yn dilyn gwaith da Martin Rose a Sacha Walters ar y dde.
Methodd Griffiths a Walters gyfleoedd da i rwydo trydedd yn fuan wedyn ond roedd dwy gôl yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Gwŷr Dur.
Y Tabl
Mae’r canlyniad yn golygu fod Port Talbot yn gorffen y tymor yn y nawfed, saith pwynt y tu ôl i’r Bala yn yr wythfed safle.
Roedd Lido Afan yn gwybod ers wythnosau mai hwy fyddai’n gorffen ar y gwaelod a Phrestatyn sydd yn gorffen y tymor yn safleoedd y gwymp gyda hwy wedi iddynt golli yn erbyn Aberystwyth ar y diwrnod olaf. Fydd Prestatyn ddim yn disgyn serch hynny gan i Hwlffordd fethu â gorffen yn nau safle uchaf cynghrair y de.
Bydd y Bala ar y llaw arall yn cefnogi Aberystwyth yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn awr gan mai dyna eu hunig gyfle o gystadlu yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd ar ddiwedd y tymor.
Ymateb
Jarred Harvey, Rheolwr Dros Dro Port Talbot:
“Roedd hi’n dipyn o ryddhad i gael y fuddugoliaeth. Dyw’r wythnosau diwethaf heb fod yn wych ond roedd y bechgyn yn ffantastig heddiw.”
“Rydym wedi bod heb sawl chwaraewr allweddol tuag at ddiwedd y tymor ac mae hi wedi bod yn anodd cael cysondeb yn y tîm, ac efallai fod heddiw yn ddiweddglo addas i dymor mor anghyson.”
Colin Caton, Cyfarwyddwr Pêl Droed y Bala:
“Dwi’n siomedig braidd, fe ddylem ni fod wedi gwneud yn well yn yr ail hanner. Ni oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ond roedd hi’n anodd dod allan o’n hanner ein hunain yn erbyn y gwynt yn yr ail gyfnod.”
“Ond allwn ni ddim cwyno, fe ddylem ni fod wedi bod yn well ond doeddem ni ddim felly pob clod iddyn nhw, roedden nhw’n haeddu’r canlyniad.”
.
Port Talbot
Tîm: Hall, Surman, Sheehan, Jones, Green, Evans (O’Sullivab 84’), John, Bauza (Walters 70’), Griffiths, Rose, De Vulght
Goliau: Bauza 14’, Griffiths 74’
Cardiau Melyn: Hall 28’, Green 36’
.
Y Bala
Tîm: Morris, Collins, S. Jones, Morley, Murtagh, Connolly, Thornton, Edwards (Codling 60’), Brown, R. Jones, Sheridan (Mason 75’)
Gôl: Brown [c.o.s.] 29’
Caridau Melyn: S. Jones 41’, Codling 68’