Caerdydd 1–1 Stoke

Mae Caerdydd yn aros yn nhri safle isaf yr Uwch Gynghrair yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Stoke yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Marko Arnautovic yr ymwelwyr ar y blaen o’r smotyn yn hwyr yn yr hanner cyntaf cyn i Peter Wittingham rwydo o ddeuddeg llath hefyd yn gynnar yn yr ail gyfnod i achub pwynt i’r Cymry.

Cyn flaenwr yr Adar Gleision, Peter Odemwingie, a gafodd gyfle gorau hanner awr agoriadol agos ond cafodd y blaenwr sydd bellach yn Stoke ei atal gan David Marshall yn y gôl.

Roedd y gŵr Nigeria yn ei chanol hi eto wrth i Stoke fynd ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner. Cafodd Odemwingie ei lorio yn y cwrt cosbi gan Kim Bo-Kyung ac fe rwydodd Arnautovic y gic ganlynol.

Doedd dim rhaid i Gaerdydd aros yn hir cyn unioni ar ddechrau’r ail hanner serch hynny wrth i’r ymwelwyr ildio cic o’r smotyn hefyd. Steven N’Zonzi oedd y troseddwr y tro hwn a Wittingham y sgoriwr o ddeuddeg llath.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i’w hennill hi yn yr hanner awr olaf. Cafodd peniad Juan Torres Ruiz ei gwrthod gan luman y dyfarnwr cynorthwyol a daeth y trawst i achub Caerdydd pan anelodd Jonathan Walters am y gôl.

Mae’r pwynt yn cadw tîm Mark Hughes, Stoke, yn yr hanner uchaf ond nid yw fawr o werth i Gaerdydd mewn gwirionedd wrth i’r Adar Gleision aros yn safleoedd y gwymp gyda dim ond tair gêm i fynd.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Fabio (John 84′), Medel, Caulker, Torres Ruiz, Kim (Zaha 60′), Mutch, Campbell, Whittingham, Daehli (Jones 81′)

Gôl: Wittingham [c.o.s.] 51’

Cardiau Melyn: Mutch 66’, Torres Ruiz 74’

.

Stoke

Tîm: Begovic, Cameron, Pieters (Muniesa 29′), Whelan, Shawcross, Wilson, Ireland (Walters 85′), N’Zonzi, Crouch, Odemwingie, Arnautovic (Assaidi 78′)

Gôl: Arnautovic [c.o.s.] 45’

Cardiau Melyn: Odemwingie 48’, N’Zonzi 51’, Crouch 85’

.

Torf: 27,686